Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru – 2018

Bydd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn anrhydeddu llwyddiannau athrawon a staff ysgolion ar draws Cymru.

Mae yna 9 categori eleni: Y defnydd gorau o Ddysgu Digidol ; Pennaeth y Flwyddyn ; Defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli ; Athro Newydd Eithriadol ; Hybu Cydweithio i Wella Cyfleoedd Dysgu ; Rheolwr Busnes Ysgol/Bwrsar ; Cefnogi Athrawon a Dysgwyr ; Athro’r Flwyddyn ; Hyrwyddo Lles Disgyblion, Cynhwysiant a Pherthynas â’r Gymuned

Mae’r enwebiadau’n cau am hanner nos ar 30 Tachwedd 2017.

Gweler gwefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth.