Gwyl Ffilm Into Film

Elusen Addysg yw Into Film sydd yn anelu at arfogi athrawon a’r sgiliau, adnoddau a’r wybodaeth gywir i ddefnyddio ffilm o fewn y dosbarth. Mae ethos Into Film yn ategu gweledigaeth yr Athro Donaldson o gefnogi pobl ifanc Cymru i fod yn bobl ifanc alluog, creadigol a hyderus. Bydd y dinasyddion ifanc gwybodus, uchelgeisiol a chyflawn hyn yn mynd yn eu blaen i gyfrannu at gymdeithas ffyniannus, ddwyieithog, greadigol a digidol. Mae ein gwaith yn cynnwys helpu ysgolion i gynnal clybiau ffilm, ysbrydoli athrawon i ddefnyddio ffilm yn y dosbarth, creu adnoddau addysg yn ymwneud â’r cwricwlwm a chynnal a threfnu digwyddiadau yn ymwneud â’r diwydiant ffilm, fel yr un gyda Rhys Ifans, seren ffilm Hollywood.

Ry’n ni’n y broses o drefnu Gwyl Ffilm Into Film a gynhelir fis Tachwedd a fydd yn caniatáu i dros 22,000 o bobl ifanc ar draws Cymru i fynd i’r sinema drwy eu hysgolion, gan felly ddarparu cyfleoedd diwylliannol i blant a phobl ifanc a fyddai fel arall ddim yn cael profiadau diwylliannol fel hyn. Yn ystod yr Wyl, bydd sinemau a chanolfannau celfyddol o Flaenau Ffestiniog i Flaenau Gwent yn agor eu drysau i gynnal dangosiadau a sesiynau ar themâu amrywiol, o’r Ail Ryfe Byd i VFX. Fel rhan i’r Wyl bydd Into Film hefyd yn gweithio â sefydliadau a phartneriaid blaenllaw i ddangos sut y gall ffilm fod yn sbardun i drafodaeth ddiddorol am bynciau gwahanol a bydd Into Film yn darparu adnoddau addysg i helpu athrawon i ddefnyddio ffilm wrth fynd yn ôl i’r ysgol.

Ar y 15fed o Dachwedd, bydd Into Film yn cynnal digwyddiad arbennig ac unigryw yn Pontio, lle byddwn yn dangos y ffilm Destintation Unknown ac yn cynnal sesiwn am y themâ’r ffilm gyda Nathan Abrams o adran Hanes Prifysgol Bangor. Gellir dysgu mwy wrth glicio yma ac os hoffech drafod a dysgu mwy ebostiwch Cardiff@intofilm.org