Holiadur am Ddatblygiad Proffesiynol ar gyfer Athrawon Mathemateg

Er mwyn llywio blaenraglen waith Y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg ar ddatblygiad proffesiynol athrawon mathemateg, rydym yn gofyn i athrawon gwblhau holiadur byr.

Mae cyfleoedd datblygu proffesiynol yn cymryd llawer o ffurfiau gwahanol. Mae pob math o gyfleoedd ar gael ar gyfer athrawon mathemateg, ond pa gyfleoedd mae athrawon yn gwybod amdanynt? Pa gyfleoedd maent yn manteisio arnynt? Mae’r Rhwydwaith Mathemateg yng Nghymru yn awyddus i glywed barn athrawon.

Nod y Rhwydwaith Mathemateg yw ceisio deall y dirwedd datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon mathemateg yng Nghymru. Mae safbwyntiau, anghenion a chanfyddiadau athrawon yn rhan bwysig o’r dirwedd. Er mwyn casglu barn, rydym yn gofyn i bob athro mathemateg, ym mhob cyfnod addysg ysgol a choleg i gwblhau holiadur byr.

Bydd y data a gasglir drwy’r holiadur yn llywio penderfyniadau’r Rhwydwaith Mathemateg ynghylch y mathau o gynigion datblygu proffesiynol byddant yn eu datblygu.

Dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r holiadur yw 31 Gorffennaf 2018.