Llafaredd GwE

1. Bydd Llafaredd GwE yn dechrau gyda rhaglen ryngweithiol dros dridiau, dan arweiniad Clare Reed a Carol Sattherthwaite. Edrychir ar lawer o’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i ddatblygu llafaredd yn eich ystafell ddosbarth.
Bydd yr ymchwil gweithredu pwrpasol hwn yn canolbwyntio ar ymgorffori llafaredd yn llwyddiannus ar draws y cwricwlwm, yn raddol, drwy:

  • ddatblygu strwythurau ysgol gyfan ar gyfer cynllunio, addysgu ac asesu llafaredd
  • cyflwyno arferion Talk for Learning (sgwrsio deialog/trafodaeth grŵp cydweithredol)
  • darparu amrywiol strategaethau a gweithgareddau sy’n gymorth i gyflwyno llafaredd
  • datblygu ar arferion myfyriol ac arfarnol gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau

Bydd adnoddau asesu wrth law i’ch helpu chi fesur newid dros amser, o safbwynt yr addysgeg a’r amgylchedd yn eich dosbarth, a chyrhaeddiad disgyblion a’u hagweddau at lafaredd.

Bwriedir y prosiect hwn ar gyfer yr Uwch Dîm Arwain, gan gynnwys yr Arweinwyr Llythrennedd a Mathemateg. Gwahoddir tri aelod o pob ysgol.

Cewch gopïau o lawer o’r strategaethau a’r gweithgareddau a gaiff sylw yn ystod yr hyfforddiant. Ar ben hynny, cewch yr adnoddau asesu a rhestr o waith darllen pellach, gwefannau a phapurau ymchwil i wella eich dealltwriaeth o lafaredd.

Dyddiadau:

Diwrnod 1: 22/02/2018
Diwrnod 2: 10/04/2018
Diwrnod 3: 27/06/2018

 

Lleoliad: I’W GADARNHAU

2. Bydd ail ran rhaglen Llafaredd GwE yn cynnwys Talk4Maths sef hyfforddiant dros ddeuddydd, dan arweiniad Clare Reed a Sam Adams. Edrychir ar:

  • ffyrdd i ddatblygu dealltwriaeth fathemategol o resymu, datrys problemau a rhwyddineb drwy siarad
  • datblygu gallu plant i ddatrys problemau geiriol, a mynd i’r afael â heriau ac ymchwiliadau mwy penagored
  • arweiniad penodol ar sut i ddatblygu’r agweddau allweddol ar Ddatrys Problemau, Rhesymu, Ymholi a Chyfathrebu

Bwriedir y prosiect hwn ar gyfer yr Arweinydd Mathemateg a fydd yna’n rhannu’r wybodaeth ag eraill yn yr ysgol, ac un athro/athrawes arall o bob ysgol.

Cewch ddisg gydag enghreifftiau ymarferol o’r cwrs i’r ysgol gyfan eu defnyddio.

Dyddiadau:

Diwrnod 1: 5.3.18
Diwrnod 2: 14.5.18

 

Lleoliad: I’W GADARNHAU

3. Bydd trydydd cam Llafaredd GwE yn cynnwys hyfforddiant ar ddwy raglen ymyrraeth lwyddiannus mewn Llafaredd i blant targed ddatblygu eu geirfa a’u sgiliau iaith, naill ai mewn Llythrennedd (TalkingPartners@Primary) neu mewn Mathemateg (Talking Maths). Cyrsiau deuddydd yw’r rhain, efo ymweliad hanner diwrnod dilynol ryw ddau dymor yn ddiweddarach.

Y gynulleidfa darged yw’r Arweinydd Llythrennedd neu Fathemateg a fydd yn cydlynu’r rhaglenni yn yr ysgol, ac athro dosbarth a dau gymhorthydd cefnogi dysgu o bob ysgol.

Cewch ddogfennau hyfforddiant er mwyn cyflwyno’r rhaglenni i blant, a disg i helpu’r cydlynydd gynnal y rhaglen yn yr ysgol.

Dyddiadau:

TalkingPartners@Primary

Diwrnod 1 – 11.7.18
Diwrnod 2 – 12.7.18
Ymweliad hanner diwrnod dilynol i’w drefnu efo pob ysgol

 

Lleoliad: I’W GADARNHAU

Talking Maths

Diwrnod 1 – 11.6.18
Diwrnod 2 – 12.6.18
Ymweliad hanner diwrnod dilynol i’w drefnu efo pob ysgol

 

Lleoliad: I’W GADARNHAU

 

Sylwch mai drwy gyfrwng y Saesneg fydd yr hyfforddiant cychwynnol.

 

Bydd cyllid ar gael i ysgolion.

 

Bydd gofyn i ysgolion gasglu data perthnasol a rhannu eu canfyddiadau ar ffurf astudiaeth achos, a gaiff ei chynnwys o fewn ‘Ysgol GwE.’

 

Gofynnir i chi gwblhau’r ffurflen isod er mwyn gwneud cais. Anfonwch unrhyw gwestiynau at y cyfeiriad e-bost literacyandnumeracy@gwegogledd.cymru