PISA 2018

Cynhelir yr astudiaeth bwysig hon mewn ysgolion y tymor hwn ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw astudiaeth addysg ryngwladol fwyaf y byd, ac mae dros 80 o wledydd yn rhan ohoni.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) yn cyflwyno PISA ar ran Llywodraeth Cymru i 23 ysgol a ddewiswyd ar hap yn rhanbarth GwE, a hynny rhwng 22 Hydref a 30 Tachwedd.

Gwerthfawrogwn fod ysgolion a ddewiswyd i gymryd rhan yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y data yn cynrychioli Cymru ac y gellir ei gynnwys yn y dadansoddiadau terfynol er mwyn tynnu casgliadau cadarn i gefnogi polisi a yrrir gan dystiolaeth.

Defnyddir canlyniadau PISA i wella dysgu ac addysgu a chynnig cipolwg gwerthfawr ar ffactorau cefndir megis agweddau disgyblion, adnoddau ysgolion, arferion a chymwysterau addysgu a sut maen nhw’n ymwneud â chyflawniad disgyblion.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.