Pleidleisio yn Agor ar gyfer Etholiadau Cyntaf Erioed Senedd Ieuenctid Cymru

Mae’r pleidleisio ar gyfer etholiad cyntaf erioed Senedd Ieuenctid Cymru wedi agor ac anogir pobl ifanc o bob cwr o Gymru i fwrw eu pleidlais i ddewis eu cynrychiolydd lleol!

Cynhelir yr etholiad am dair wythnos rhwng 5 a 25 Tachwedd eleni. Gall unrhyw un rhwng 11-18 oed ac sy’n byw yng Nghymru gofrestru i bleidleisio ac mae dros 13,000 eisoes wedi gwneud hynny. Os oes rhai yn eich ysgol heb gofrestru i bleidleisio eto, cofiwch y bydd yn bosib iddynt wneud hynny tan 16 Tachwedd. Ewch i’r wefan am manylion pellach.

Ar ôl cofrestru, caiff pob person ifanc e-bost sy’n cynnwys cod pleidleisiwr unigryw ynghŷd â manylion yr ymgeiswyr er mwyn gallu pleidleisio. Bydd y rhai sy’n cofrestru ar ôl y 5 Tachwedd yn cael cod pleidleisiwr unigryw ar 9 neu 20 Tachwedd.

Mae’r holl ymgeiswyr wedi postio eu manylion ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru