Prentisiaethau: Canllawiau i Ysgolion

Mae’n bleser gan Llywodraeth Cymru eich hysbysu fod canllaw Prentisiaethau newydd ar gyfer Ysgolion yn fyw ar eu gwefan.

Maent wedi gweithio gyda nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon [NHAT] i ddatblygu canllaw a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am sut y gall ysgolion recriwtio neu hyfforddi staff presennol sy’n defnyddio prentisiaethau.

Mae eu Pecyn Cymorth i Gyflogwyr hefyd yn rhoi trosolwg defnyddiol o’r Rhaglen Prentisiaeth yng Nghymru. Gall prentisiaid astudio ar gyfer eu cymhwyster yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog, gan hysbysu’r darparwr fel rhan o’r broses gofrestru.