Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a’r Asesiadau Personol

Gweler isod lythyr yn amlinellu gwybodaeth bwysig ynghylch trefniadau yr Asesiadau Personol a’r Profion Cenedlaethol 2019.

Annwyl Gyd-weithiwr,

Mae cyfnod Profion Cenedlaethol 2018-19 ar ein gwarthaf, a’r tro cyntaf i Ddarllen ac Ymresymu Rhifyddol yn unig fod ar fformat papur ac Asesiadau Personol fod mewn lle ar gyfer Rhifedd Gweithdrefnol. Ysgrifennaf atoch felly i rannu’r holl fanylion angenrheidiol â chi.

Profion papur: dyma’r cyfnod profi ar gyfer 2019

Ysgolion cynradd: 7-14 Mai 2019;

Ysgolion uwchradd : 29 Ebrill-14 Mai 2019.

Asesiadau Personol (AP) : gall ysgolion gynnal yr AP Rhifedd Cenedlaethol (Gweithdrefnol) unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn yr ystyrir ei fod fwyaf manteisiol o ran llywio’r dysgu a’r addysgu. Gofynnir i ddysgwyr wneud yr asesiad unwaith yn ystod blwyddyn ysgol 2018-19.  Gall ysgolion ddewis defnyddio’r asesiad un waith eto yn ystod y flwyddyn ysgol (tudalen 19 Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – Llawlyfr gweinyddu profion 2018-19 )

Bydd y wefan asesiadau ar gael o wythnos gyntaf mis Rhagfyr 2018.  Gall aelodau staff a dysgwyr gael mynediad i’r wefan drwy Hwb, Platfform Dysgu ar-lein LlC, a hynny drwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb.

Hoffwn dynnu eich sylw at  Lawlyfr Gweinyddu Profion 2019 a gyhoeddwyd ar wefan Dysgu Cymru fis Tachwedd.  Dyma’r linc i chi: http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/181019-test-admin-handbook-2018-cy.pdf

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig fydd ei hangen arnoch i weinyddu’r profion a’r Asesiadau Personol.  Hoffwn ategu barn LlC, fel yr amlinellir ar dudalen 2 yr arweiniad,

‘Mae’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol (‘y Profion Cenedlaethol’) at ddefnydd

ffurfiannol er mwyn i athrawon ym mhob ysgol a gynhelir gael gwybodaeth am

sgiliau darllen a rhifedd eu dysgwyr a dealltwriaeth gyffredin o gryfderau a meysydd

i’w gwella yn y sgiliau hyn. Mae’r Profion Cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddeall cynnydd dysgwyr, yn hytrach na pherfformiad neu atebolrwydd yr ysgol’

Er mwyn cyflawni hyn, mae’n bwysig iawn nad yw dysgwyr yn cael eu drilio ymlaen llaw.   Byddwn yn eich hannog yn gryf i beidio defnyddio amser addysgu i adolygu ar gyfer y profion na gosod cyn-bapurau fel gwaith cartref. Nid yn unig y mae hyn yn achosi straen diangen i ddisgyblion, ond gall hefyd guddio anawsterau y gallai rhai dysgwyr fod yn eu hwynebu.

Dyddiadau allweddol ar gyfer 2018-19

http://learning.gov.wales/resources/collections/national-reading-and-numeracy-tests?lang=cy

Profion yn cael eu hanfon i ysgolion

Ysgolion cynradd: wythnos yn dechrau 29 Ebrill 2019
Ysgolion uwchradd: wythnos yn dechrau 8 Ebrill 2019

Rhaid anfon amserlenni profion i profion@gwegogledd.cymru erbyn 12 Ebrill 2019.  Cwblhewch y pro fforma sydd ynghlwm wrth y llythyr hwn.  Os bydd rhaid i chi newid yr amserlen ar unrhyw bryd, rhaid i chi roi gwybod i ni ar yr un cyfeiriad e-bost, yn ogystal â hysbysu rhieni.

 Ysgolion yn gweinyddu’r profion

Ysgolion cynradd: 7-14 Mai 2019

Ysgolion uwchradd: 29 Ebrill-14 Mai 2019

Noder y newidiadau hyn: Gall ysgolion canol a lleoliadau eraill sydd â dysgwyr ym Mlynyddoedd 2-9 weinyddu’r Profion Rhifedd Cenedlaethol (Ymresymu) Blwyddyn 7-9 a Phrofion Darllen Cenedlaethol Blwyddyn 7-9  o 29 Ebrill 2019. 

Dyddiad olaf ar gyfer llwytho Data

Fel y pennir gan yr awdurdod lleol

Canlyniadau/adborth i ysgolion

Profion papur: cyn diwedd tymor yr haf

Asesiadau Personol: bydd adborth ar unigolion ar gael ar y wefan asesu ddiwrnod ar ôl cwblhau’r asesiad.

Dylid sefyll prawf unigol – e.e. Prawf Darllen B2/3 a B4/5 – ar yr un diwrnod.

Cymorth
Gall ysgolion gysylltu â’r Llinell Gymorth Archebu Profion ar 029 2026 5327 neu aplc@profioncenedlaethol.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiwn am yr wybodaeth sydd yn y llawlyfr hwn.

Sesiynau Cefnogi Marcio
Bydd NFER yn trefnu ac yn cyflwyno sesiynau cefnogi marcio ar gyfer y prawf Ymresymu Rhifyddol ysgolion Uwchradd, a bydd NFER yn cysylltu ag ysgolion yn uniongyrchol gyda manylion am sut i gofrestru. Cynhelir sesiynau i ysgolion cynradd yn lleol o brynhawn 14 Mai 2019 (manylion i ddilyn ar e-bost, G6 a Bwletin GwE).

Datgymhwyso
Ar gyfer lleiafrif bach o ddisgyblion mewn ysgolion prif lif yn unig fydd hyn yn berthnasol, a hynny ar gyfer y profion papur yn benodol.  Ystyriwch yn ofalus yr ystod o drefniadau mynediad a awgrymir yn Atodiad 5, tudalen  44 y ‘Llawlyfr Gweinyddu Profion’. Os ydych yn penderfynu mai datgymhwyso yw’r  unig opsiwn ar gyfer disgybl unigol, anfonwch e-bost i profion@gwegogledd.cymru i ofyn am ragor o arweiniad.   DS – rhaid ceisio cadarnhad wedi’i lofnodi erbyn  22 Mawrth 2019.

Monitro
Byddwn yn ymweld â sampl o ysgolion cyn ac yn ystod cyfnod gweinyddu’r profion papur i fonitro a yw ysgolion yn cydymffurfio â’r arweiniad.  Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yn monitro gweinyddu’r profion mewn ysgolion fel rhan o’u cyfrifoldebau ehangach o ran asesu, a gofynnwyd i GwE ymgymryd â’r rôl hon ar ei rhan.  Isod, (er gwybodaeth yn unig) gweler y meini prawf fydd yr unigolion hynny sy’n ymwneud â’r dasg hon yn eu defnyddio.

Mae hyn hefyd yn cynnwys monitro’r Asesiadau Personol fydd yn digwydd o fis Ionawr 2019 ymlaen.  Gweler isod:

Gall y gwaith o fonitro sut mae ysgolion yn gweithredu’r asesiadau personol ddigwydd ar unrhyw adeg.
Bydd ymweliadau monitro yn canolbwyntio ar hyrwyddo arfer da wrth ddefnyddio’r asesiadau, ac ar y ffordd y mae’r wybodaeth am sgiliau dysgwyr a ddarparwyd gan yr asesiadau wedi cael ei defnyddio i gynllunio gweithgarwch dysgu ac addysgu.”

(tudalen 24 Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – Llawlyfr gweinyddu profion 2018-19)

Gwn y gallaf, fel bob amser, fod yn sicr o’ch cefnogaeth a’ch cydweithrediad os caiff eich hysgol ei dewis ar gyfer ymweliad yn ystod y cyfnod hwn.

Datganiad y Pennaeth ar gyfer Profion Papur

O fewn saith niwrnod ysgol o’r dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno data, rhaid i’r Pennaeth lofnodi datganiad a’i gyflwyno i’r consortiwm rhanbarthol yn cadarnhau bod y pecynnau prawf wedi cyrraedd ac wedi’u storio yn ddiogel, bod y profion wedi’u gweinyddu yn briodol yn unol â’r gofynion a amlinellir yn y llawlyfr gweinyddu PC (y llawlyfr hwn) a bod y profion wedi’u marcio yn unol â’r cynllun marcio.  Mae ffurflen ddatganiad ar gael ar:

www.learning.gov.wales/resources/browse-all/headteachers-declaration/;jsessionid=BB6EC113E2951A3BF62C81D2C292FBBC?skip=1&lang=cy

Cofion cynnes

Arwyn Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr, GwE Gogledd Cymru

Meini prawf ar gyfer ymweliadau monitro 2019

YMWELIAD CYN Y PROFION:

A yw’r pecynnau profion wedi’u  gwirio yn erbyn y nodyn danfon?
A yw’r aelod staff fydd yn gyfrifol am weinyddu’r prawf ymresymu rhifyddol ym mhob dosbarth/grŵp blwyddyn wedi derbyn y ddisg a sgript yr athro?
A yw’r bocsus profion wedi’u hailselio?
A gedwir y bocsus mewn man diogel lle na chaiff unrhyw ddysgwr fynediad at gynnwys y profion na’u gweld?
A yw’r ysgol wedi gwirio bod y ddisg ar gyfer gweinyddu’r prawf ymresymu rhifyddol yn gweithio’n iawn?

YMWELIAD YN YSTOD Y CYFNOD PROFI:

A all dysgwyr weithio’n unigol a heb unrhyw beth yn tarfu arnynt?
A yw dysgwyr yn gallu gweld unrhyw ddeunyddiau a allai roi mantais annheg iddynt o ran cynnwys y prawf e.e. arddangosfeydd neu adnoddau dosbarth cyffelyb, ffonau symudol?
A atgoffir dysgwyr y dylai’r gwaith a gynhyrchir ganddynt yn y profion fod eu gwaith eu hunain, ac na ddylent drafod cwestiynau na chopïo atebion?
A roddir amser digonol i ddysgwyr gwblhau’r prawf, yn unol â’r amseroedd a nodir yn y llawlyfrau profion?
A atgoffir dysgwyr na ddylent drafod cynnwys y profion na’r atebion y tu allan i’w grŵp cyfoedion?
A oes goruchwyliaeth briodol gydol yr amser, sy’n cyd-fynd â nifer y disgyblion a oruchwylir?
A oes gan ddysgwyr y deunyddiau ar gyfer y profion a’r holl adnoddau angenrheidiol?
A weinyddir y prawf yn unol â’r arweiniad a roddir yn y llawlyfr a’r wybodaeth yn llawlyfrau’r profion?
A roddir unrhyw gefnogaeth, gwybodaeth neu gymorth ychwanegol i ddysgwyr gyda chynnwys y profion, heblaw am yr hyn sy’n unol â’r ddarpariaeth ar gyfer y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – arweiniad ar drefniadau mynediad a datgymhwyso?
A yw dysgwyr yn deall yr hyn sydd rhaid iddyn nhw wneud a’r amser a roddir ar gyfer cwblhau’r prawf?
A ganiateir i ddysgwyr ddychwelyd at a/neu ddiwygio eu hatebion i’r profion ar ôl i’r amser a ganiateir ddod i ben?
Os oes disgyblion wedi’u datgymhwyso o’r prawf, a gafwyd cymeradwyaeth ysgrifenedig?