Rhaglen Ddatblygu i Arweinwyr Llythrennedd a Rhifedd

Pwy yw’r gynulleidfa darged?
Mae’r rhaglen ddatblygu hon ar gyfer Arweinwyr Llythrennedd/Rhifedd mewn ysgolion cynradd yn rhanbarth gogledd Cymru.  Fel Arweinydd, bydd rhaid i aelodau gael cyfle i arwain blaenoriaeth allweddol Llythrennedd/Rhifedd yng nghynllun datblygu cyfredol yr ysgol.

 

Pryd a ble?
Bydd un garfan ddwyieithog ar draws y rhanbarth (10 Arweinydd Llythrennedd, 10 Arweinydd Rhifedd). Bydd adnoddau ar gael yn ddwyieithog:

Diwrnod 1: Dydd Mercher, 24 Hydref 2018 – OpTIC, Llanelwy

Diwrnod 2: Dydd Iau, 25 Hydref 2018 – OpTIC, Llanelwy

Diwrnod 3: Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2019 – OpTIC, Llanelwy

Diwrnod 4: Dydd Iau, 28 Mawrth 2019 – OpTIC, Llanelwy

Bydd pob diwrnod yn dechrau am 9:00yb ac yn gorffen am 4:00yp.  Rhaid i’r aelodau fynychu’r dyddiau i gyd. 

 

Pam?

  • Gwella sgiliau arweinyddiaeth aelodau a chapasiti arweinyddol ysgol i wella safonau cyflawniad a chyrhaeddiad pob disgybl mewn Llythrennedd a Rhifedd.

 

Cynnwys y Rhaglen:

  • Bydd aelodau yn rhan o brosiect yn seiliedig ar dystiolaeth yn ystod y rhaglen; bydd gofyn iddynt gadw dyddiadur myfyrio a dangos sut y caiff yr arfer hon effaith ar eu datblygiad personol.
  • Rhoddir sylw i’r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, fydd yn galluogi’r aelodau i fesur a thracio eu cynnydd a’u datblygiad, ac adnabod eu hanghenion i’r dyfodol.
  • Caff aelodau ddealltwriaeth glir o’r hyn yw addysgu a dysgu rhagorol, gan gynnwys blaenoriaethau cenedlaethol, defnyddio data yn effeithiol, hunan arfarnu a chynllunio gweithredol.

 

Y broses:

  • Datblygu gwybodaeth/sgiliau yn unol â blaenoriaethau LlC ac Ymchwil Rhyngwladol i Arweinyddiaeth o ran addysgeg effeithiol.
  • Drwy arwain Llythrennedd a Rhifedd, eir i’r afael â gofynion y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.
  • Mentora a hyfforddi un i un ac mewn grwp.
  • Arfer myfyriol a dysgu ar y cyd.

 

COFRESTRWCH DRWY G6