Sefydlu Senedd Ieuenctid Newydd i Gymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn creu llwyfan cenedlaethol i 60 o bobl ifanc i’w lleisiau gael eu clywed gan eu cynrychiolwyr cenedlaethol etholedig.

Mae gwybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio a chanllawiau i ddarpar ymgeiswyr ar sut i sefyll i gael eu hethol bellach ar gael ar-lein.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awyddus i hyrwyddo’r cyfle hwn i bob person ifanc ledled Cymru a fydd rhwng 11 a hyd at 18 oed cyn 25 Tachwedd 2018.

Efallai y bydd ysgolion am ystyried gwneud hyn yn rhan o’r broses o ymgyfarwyddo disgyblion ym mis Medi ac annog disgyblion i gymryd rhan yn yr etholiadau ar-lein cyntaf erioed ym mis Tachwedd fel rhan o’u dysgu.

Os hoffech drefnu ymweliad â’r Cynulliad neu i ni ymweld â’ch ysgol a rhoi gwybodaeth am y cyfle hwn, cysylltwch â 0300 200 6565. I ofyn am ddeunyddiau copi caled, gan gynnwys posteri, anfonwch e-bost at helo@seneddieuenctid.cymru

I gael arweiniad manwl ar gyfer athrawon, disgyblion a rhieni, ewch i’r tudalennau canllawiau ar-lein.