Y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig yn canmol gwaith GwE gydag ysgolion mewn adroddiad ar waith ymchwil addysg yn y DU

Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Y Gymdeithas Frenhinol, a ddatblygwyd ar y cyd â’r  Academi Brydeinig, yn asesu cyflwr presennol ymchwil addysg ac yn gosod gweledigaeth uchelgeisiol i’r dyfodol.  Mae’r adroddiad yn asesu cyflwr presennol ymchwil addysg yn y DU a’i rôl yn yr ecosystem addysg ehangach. Ystyrir llif pobl, cyllid a gwybodaeth drwy system addysg y DU a chyfeirir at y bartneriaeth bwysig rhwng GwE a’r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI, Prifysgol Bangor) a Phrifysgol Warwick o ran helpu athrawon ‘i wella eu gwybodaeth eu hunain o ymchwil a sgiliau wrth ymholi, a dysgu am syniadau ac arferion newydd i wella eu haddysgu.’