Y Gymraeg mewn Addysg – Sgiliau Cymraeg y Gweithlu

Byddwch yn ymwybodol i’r Cyfarwyddwyr Addysg gysylltu efo ysgolion y consortiwm ddechrau’r flwyddyn er mwyn rhannu gwybodaeth parthed cynnal Arolwg o Sgiliau Cymraeg y Gweithlu Addysg (yn ystod mis Mawrth/ Ebrill), ac yn ddiweddarach bu i chi dderbyn linc penodol, er mwyn i bob ysgol gael y cyfle i gwblhau’r holiadur.

Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn o ran yr ymatebion, gyda dros 7,000 o unigolion yn cwblhau’r holiadur.

Bydd pob ysgol o fewn y rhanbarth yn derbyn adroddiad wedi’i theilwra i’r ysgol yn unigol yn amlinellu’r canlyniadau.  Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth ‘interim’ am yr hyfforddiant iaith sydd ar gael yn bresennol, yn ogystal â’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu yn benodol i bob Sir gan eu hawdurdod. Y bwriad yw diweddaru ac adolygu’r ddarpariaeth yma yn unol a chanfyddiadau’r arolwg sgiliau.

Bydd yr adroddiadau a’r taflenni’n cael eu hanfon i’r ysgolion dros e-bost. Bydd hyn yn digwydd dros y dyddiau gwaith nesaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr Arolwg, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ArolwgSgiliauIaithGymraeg@gwegogledd.cymru.