Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru

DEWCH I DRAFOD GWAITH IEUENCTID

CYFLE I BOBL IFANC CYMRU DDWEUD EU DWEUD AM WAITH IEUENCTID GYDA BWRDD GWAITH IEUENCTID DROS DRO NEWYDD CYMRU.

Fel rhan o’u gwaith, mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd yn cydnabod pwysigrwydd llais y person ifanc wrth ddatblygu strategaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, a hynny er mwyn ein galluogi ni i ddeall yr hyn sy’n bwysig i bobl ifanc, sut y maent yn teimlo am y gefnogaeth a gânt bellach a pha gefnogaeth yr hoffent ei chael yn y dyfodol.

Fel y cam cyntaf yn y broses hon, maent wedi datblygu arolwg pobl ifanc, a gofynnwn yn garedig i’ch sefydliadau gwblhau hwn gyda’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy.

Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn darllen y dogfennau sydd ynghlwm, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a chwblhau’r arolwg (sydd ar ffurf cyflwyniad yn yr e-bost hwn) yn y dull mwyaf perthnasol i’ch pobl ifanc. Gofynnwn i chi ddychwelyd y daflen adborth sy’n crynhoi’r trafodaethau a’r ymatebion i bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru erbyn Dydd Llun 14 Ionawr 2019.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.