Secstio: Ymateb i achosion a diogelu dysgwyr.

Dymunai GwE roi gwybod fod canllawiau dwyieithog newydd ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yng Nghymru, wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar o dan y pennawd:

Secstio: Ymateb i achosion a diogelu dysgwyr. Canllawiau ar gyfer lleoliadau addysgol yng Nghymru.’

Mae Gweithgor Addysg Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS) wedi llunio’r cyngor hwn mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan. Diben y canllawiau yw helpu ysgolion, colegau a lleoliadau addysgol eraill i ddatblygu gweithdrefnau i ymateb i ddigwyddiadau’n ymwneud â phobl ifanc yn creu delweddau rhywiol. Mae hefyd yn cyfeirio sefydliadau addysgol at ffynonellau adnoddau a chefnogaeth. Nid yw’r canllawiau hyn yn statudol a dylid eu darllen ochr yn ochr â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

Lluniwyd y cyngor hwn ar ran Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd, grŵp o dros 200 o sefydliadau o feysydd llywodraeth, diwydiant, y gyfraith, a’r sectorau elusennol ac academaidd, i gyd yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein.