Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Dysgu yn y Gymru Ddigidol
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD) yw elfen gyntaf y cwricwlwm newydd i Gymru a gynigir. Cymhwysedd digidol yw set o sgiliau, gwybodaeth ac agweddau sy’n hwyluso gallu defnyddio technolegau a systemau yn hyderus, yn greadigol ac yn feirniadol. Mae’n hanfodol ar gyfer dysgwyr os ydynt am fod yn wybodus, yn fedrus ac â’r potensial i lwyddo yn y gymdeithas fodern.
Ni ddylid drysu rhwng cymhwysedd digidol a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) neu Gyfrifiadureg. Mae cymhwysedd digidol yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, a’r lleill yw llythrennedd a rhifedd. Mae’n canolbwyntio ar sgiliau digidol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o bynciau a sefyllfaoedd ac y gellir eu trosglwyddo i fyd gwaith.
Mae arweiniad pellach, lawrlwythiadau ac atebion i gwestiynau cyffredin ar gael ar Dysgu Cymru.
Cefnogaeth GwE ar gyfer y FfCD:
Arweinydd Digidol Strategol GwE: Simon Billington – simonbillington@gwegogledd.cymru
Ymgynghorwyr cefnogi gwelliant gyda chyfrifoldebau am bortffolio digidol:
- Sian Thomas – sianthomas@gwegogledd.cymru
- Osian Hughes – osianhughes@gwegogledd.cymru
Mae 4 Arweinydd Digidol yng ngogledd Cymru bellach sydd wedi’u secondio i weithio trwy GwE a chynnig cefnogaeth gyda’r FfCD, HWB a phrosiect Cracio’r Cod:
- Gwion Clarke (Ysgol y Graig) – Arloeswr Digidol – ClarkeG@hwbmail.net
- Kellie Williams (Ysgol Cornist Park) – Arloeswr Digidol – WilliamsK180@hwbmail.net
- Catrin Richards (Ysgol Bodedern) – richardsc99@hwbmail.net
- Alex Clewett (Ysgol Uwchradd y Fflint) – Cydlynydd Cracio’r Cod – Alex.Clewett@hwbmail.net
Mae arweinwyr digidol yn cynnig cyngor proffesiynol, arweiniad, hyfforddiant a chymorth yn y meysydd allweddol a ganlyn:
- Darparu cymorth a hyfforddiant ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd (FfCD)
- Adnabod arfer orau mewn Cymhwysedd Digidol a datblygu rhwydweithiau o ysgolion ac ymarferwyr arweiniol
- Cynllunio ar gyfer y FfCD a defnyddio Technolegau Digidol ar draws y cwricwlwm
- Hunanarfarnu TGCh
- Defnyddio Hwb, adnoddau ar-lein Hwb ac Office 365
- Dinasyddiaeth Ddigidol a Diogelwch Ar-lein
- Datblygu gweithgareddau codio yn yr ysgol
- Cefnogaeth cyn ac ar ôl arolygiad – ar y cyd ag Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE
Arolygiad
O dan fframwaith y trefniadau arolygu newydd, bydd Estyn yn parhau i arolygu TGCh ar draws y cwricwlwm, hyd nes bod y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cael ei roi ar waith. Bydd Estyn yn parhau i adrodd ar safonau disgyblion wrth ddefnyddio TGCh ar draws y cwricwlwm ym mhob arolygiad. Bydd pob adroddiad arolygu yn cynnwys paragraff ar safonau disgyblion o ran cymhwyso TGCh ar draws y cwricwlwm yn 1.0 Safonau, yn ogystal â chofnodi tystiolaeth yn 1.3 Safonau a chynnydd o ran medrau.
Cyhoeddodd Estyn arweiniad atodol yn ddiweddar ar arolygu TGCh mewn ysgolion, a gellir dod o hyd i hwn ar brif wefan Estyn.
Argymhellion
Erbyn mis Medi 2018, bydd disgwyl i ysgolion a lleoliadau fod wedi gwneud cynnydd da o ran defnyddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Erbyn mis Medi 2018, bydd:
- ysgolion wedi sefydlu gweledigaeth glir i’r FfCD yn y dosbarth
- ysgolion wedi sefydlu cyfrifoldebau staff ar gyfer y FfCD
- adolygiad parhaus o:
– galedwedd, rhwydweithiau mewnol a meddalwedd, ac
– anghenion dysgu proffesiynol staff - ysgolion yn adnabod cyfleoedd i ddatblygu cymhwysedd digidol dysgwyr ar draws grwpiau blwyddyn ac adrannau
- ysgolion wedi cynllunio ar gyfer ac yn creu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol staff mewn cymhwysedd digidol.
Bydd angen cyfuniad o weithgareddau arweinyddiaeth a datblygu dysgu ac addysgu, a fyddai’n cynnwys:
- Y Tîm Arwain a staff allweddol yn dehongli disgwyliadau’r FfCD
- Archwiliad o fedrusrwydd staff er mwyn adnabod y gefnogaeth sydd ei hangen
- Hunanarfarnu TGCh
- Penodi arweinydd FfCD yn yr ysgol
- Archwiliad o’r cynlluniau cwricwlwm presennol er mwyn pennu cyd-destun priodol i elfennau’r FfCD
- Adnabod meysydd ar gyfer datblygiad cwricwlwm pellach
- Adnabod gweithgareddau ysgol-i-ysgol posib fyddai’n cefnogi gweithredu’r FfCD
- Archwiliad o’r adnoddau sydd eu hangen
- Cynllun ar gyfer gwariant parhaus i gefnogi adnoddau a hyfforddiant penodol
- Ystyried defnyddio modelau SAMR neu TPACK i’ch helpu i greu eich tasgau cwricwlaidd
– https://www.commonsensemedia.org/videos/introduction-to-the-samr-model
- Dechrau plethu’r FfCD ar draws y cwricwlwm
- Cael cefnogaeth a hyfforddiant gan y consortiwm
Dylai’r gweithgareddau hyn fod yn rhan o gynllunio gwelliant ysgol parhaus.
Am ragor o arweiniad, cysylltwch â:
Simon Billington – simonbillington@gwegogledd.cymru