Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018
 Phrofion Cenedlaethol 2018 ar y gorwel, a’r tro olaf y bydd y tri phrawf gyda’i gilydd ar bapur, ysgrifennaf atoch i rannu rhai negeseuon allweddol â chi am y profion a’u gweinyddu mewn ysgolion.
Yn gyntaf, hoffwn dynnu eich sylw at y Llawlyfr Gweinyddu Profion ar gyfer 2018 a gyhoeddwyd ar wefan Dysgu Cymru fis Tachwedd. Dyma’r linc i chi.
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig fydd ei hangen arnoch i weinyddu’r profion yn llwyddiannus gyda’ch disgyblion. Hoffwn ategu barn LlC, fel yr amlinellir ar dudalen 2 yr arweiniad, “mae’r Profion Cenedlaethol at ddefnydd diagnostig, er mwyn sicrhau bod gan athrawon ym mhob ysgol wybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd eu dysgwyr a bod ganddynt ddealltwriaeth gyffredin o gryfderau a meysydd i’w gwella o safbwynt y sgiliau hyn. Maent yn canolbwyntio ar ddeall cynnydd dysgwyr, ac nid ar berfformiad ysgolion nac ar atebolrwydd. Dyma pam nad yw canlyniadau’r Profion Cenedlaethol yn cael eu cynnwys yn y gyfres o fesuriadau perfformiad ar gyfer categoreiddio ysgolion”.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’n bwysig iawn nad yw dysgwyr yn cael eu drilio ymlaen llaw. Byddem yn eich annog yn gryf i beidio â defnyddio amser addysgu i adolygu ar gyfer y profion na gosod cyn-bapurau fel gwaith cartref. Nid yn unig y mae hyn yn achosi straen diangen i ddisgyblion, ond gall hefyd guddio anawsterau y gallai rhai dysgwyr fod yn eu hwynebu.
Dyddiadau allweddol ar gyfer 2018
http://learning.gov.wales/resources/collections/national-reading-and-numeracy-tests?lang=cy
Profion yn cael eu hanfon i ysgolion
Ysgolion cynradd: wythnos yn dechrau 23 Ebrill 2018
Ysgolion uwchradd: wythnos yn dechrau 16 Ebrill 2018
Bydd ysgolion canol a lleoliadau uwchradd eraill sy’n archebu profion ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd yn derbyn deunyddiau ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9 yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Ebrill 2018 a deunyddiau ar gyfer Blynyddoedd 2 i 6 yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 23 Ebrill 2018.
Rhaid dychwelyd amserlen y profion i profion@gwegogledd.cymru erbyn 20 Ebrill 2018. Cwblhewch y profforma yma. Os bydd rhaid i chi newid yr amserlen ar unrhyw bryd, rhaid i chi roi gwybod i ni ar yr un cyfeiriad e-bost, yn ogystal â hysbysu rhieni.
Ysgolion yn gweinyddu’r profion
Ysgolion cynradd: 2-9 Mai 2018
Ysgolion uwchradd: 25 Ebrill-9 Mai 2018
Dyddiad olaf ar gyfer llwytho Data
Fel y pennir gan yr awdurdod lleol, ond erbyn 6 Mehefin 2018
Canlyniadau i ysgolion
Cyn diwedd tymor yr haf
Dylid sefyll prawf unigol – e.e. Prawf Darllen B2/3 a B4/5 – ar yr un diwrnod. Rhaid sefyll Profion Darllen B7 rhwng 2 a 9 Mai 2018.
Cymorth
Gall ysgolion gysylltu â’r Llinell Gymorth Archebu Profion ar 029 2026 5327 neu wgto@nationaltests.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiwn am yr wybodaeth sydd yn y llawlyfr hwn.
Sesiynau Cefnogi Marcio
Bydd NFER yn trefnu ac yn cyflwyno sesiynau cefnogi marcio ar gyfer prawf Ymresymu Rhifyddol ysgolion Uwchradd, a bydd NFER yn cysylltu ag ysgolion yn uniongyrchol gyda manylion am sut i gofrestru. Cynhelir sesiynau ar gyfer ysgolion cynradd yn lleol rhwng 9 a 16 Mai 2018 (manylion i ddilyn drwy e-bost ac ar Fwletin GwE).
Datgymhwyso
Ar gyfer lleiafrif bach o ddisgyblion mewn ysgolion prif lif yn unig fydd hyn yn berthnasol. Ystyriwch yn ofalus yr ystod o drefniadau mynediad a awgrymir yn Atodiad 5, tudalen 34 y ‘Llawlyfr Gweinyddu Profion’. Os ydych yn penderfynu mai datgymhwyso yw’r unig opsiwn ar gyfer disgybl unigol, anfonwch e-bost at Llyr Gilmour-Jones, y Swyddog Datgymhwyso a Enwebwyd, i profion@gwegogledd.cymru yn nodi hyn ac i holi am arweiniad pellach. DS – rhaid ceisio cadarnhad wedi’i lofnodi erbyn 23 Mawrth 2018.
Monitro
Byddwn yn ymweld â sampl o ysgolion cyn ac yn ystod y cyfnod gweinyddu profion i fonitro a yw ysgolion yn cydymffurfio ag arweiniad. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yn monitro gweinyddu’r profion mewn ysgolion fel rhan o’u cyfrifoldebau ehangach o ran asesu, a gofynnwyd i GwE ymgymryd â’r rôl hon ar eu rhan. Isod, (ac er gwybodaeth yn unig) gweler y meini prawf fydd yr unigolion hynny sy’n ymwneud â’r dasg hon yn eu defnyddio. Gwn y gallaf, fel bob amser, fod yn sicr o’ch cefnogaeth a’ch cydweithrediad os caiff eich ysgol ei dewis ar gyfer ymweliad yn ystod y cyfnod hwn.
Datganiad y Pennaeth
O fewn saith niwrnod ysgol o’r dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno data, rhaid i’r Pennaeth lofnodi datganiad a’i gyflwno i’r consortiwm rhanbarthol yn cadarnhau bod y pecynnau prawf wedi cyrraedd ac wedi’u storio yn ddiogel, bod y profion wedi’u gweinyddu yn briodol yn unol â’r gofynion a amlinellir yn y llawlfyr gweinyddu PC a bod y profion wedi’u marcio yn unol â’r cynllun marcio. Mae ffurflen ddatganiad ar gael ar http://learning.gov.wales/resources/browse-all/headteachers-declaration/?lang=cy
Meini prawf ar gyfer ymweliadau 2018
Ymweliad cyn y profion
A yw’r pecynnau profion wedi’u gwirio yn erbyn y nodyn danfon? |
A yw’r aelod staff fydd yn gyfrifol am weinyddu’r prawf ymresymu rhifyddol ym mhob dosbarth/grŵp blwyddyn wedi derbyn y ddisg a sgript yr athro? |
A yw’r bocsus profion wedi’u hailselio? |
A gedwir y bocsus mewn man diogel lle na chaiff unrhyw ddysgwr fynediad at gynnwys y profion na’i weld? |
A yw’r ysgol wedi gwirio bod y ddisg ar gyfer gweinyddu’r prawf ymresymu rhifyddol yn gweithio’n iawn? |
Ymweliad yn ystod y cyfnod profi. Mae’n rhaid i ysgolion sicrhau:
bod dysgwyr yn gallu gweithio’n unigol a heb unrhyw beth yn tarfu arnynt |
nad yw’r dysgwyr yn gweld unrhyw ddeunyddiau a allai roi mantais annheg iddynt o ran cynnwys y prawf e.e. arddangosfeydd neu adnoddau dosbarth cyffelyb, ffonau symudol |
bod dysgwyr yn cael eu hatgoffa na ddylent drafod cwestiynau na chopïo atebion |
bod dysgwyr yn cael amser digonol i gwblhau’r prawf, yn unol â’r amseroedd a nodir yn y llawlyfrau profion |
bod dysgwyr yn cael eu hatgoffa na ddylent drafod cynnwys y profion na’r atebion y tu allan i’w grŵp cyfoedion |
bod goruchwyliaeth briodol gydol yr amser sy’n cyd-fynd â nifer y disgyblion sy’n cael eu goruchwylio |
bod gan ddysgwyr y deunyddiau ar gyfer y profion a’r holl adnoddau angenrheidiol |
bod y prawf yn cael ei weinyddu yn unol â’r arweiniad a roddir yn y llawlyfr a’r wybodaeth yn llawlyfrau’r profion |
na chaiff dysgwyr unrhyw gefnogaeth, gwybodaeth neu gymorth ychwanegol gyda chynnwys y profion, heblaw am yr hyn sy’n unol â’r ddarpariaeth ar gyfer y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – arweiniad ar drefniadau mynediad a datgymhwyso |
bod dysgwyr yn deall yr hyn sydd raid iddyn nhw wneud a’r amser a roddir ar gyfer cwblhau’r prawf |
na chaiff dysgwyr ddychwelyd at a/neu ddiwygio eu hatebion i’r profion ar ôl i’r amser a ganiateir ddod i ben. |
os oes disgyblion wedi’u datgymhwyso o’r prawf, a gafwyd cymeradwyaeth ysgrifenedig |