Cefnogi Dysgwyr Bregus drwy’r GDD

Canllawiau Cenedlaethol a Rhanbarthol ar weithredu’r GDD [Grant Datblygu Disgyblion] i sefydliadau addysgol yng ngogledd Cymru:

SAIL RESYMEGOL:

Nod yr adran hon yw rhoi trosolwg o’r GDD mewn perthynas â’r agenda/gofynion cenedlaethol, y dull gweithredu rhanbarthol a’r cymorth gan y consortia, a pherthnasedd ac effaith hyn ar ysgolion a lleoliadau. Bydd hefyd yn cyfeirio ysgolion, lleoliadau ac AauLl at bolisïau strategol allweddol a chanllawiau ac arfer lwyddiannus sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gyda’r nod o ddarparu cysondeb yn y gweithredu a’r cymorth i ysgolion ar hyd a lled y rhanbarth. 

Y CYD-DESTUN CENEDLAETHOL:

Un o amcanion allweddol Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Cynllun Gweithredu 2017–21 yw “codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.” Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu’r GDD fel y gall ysgolion wella cyfleoedd bywyd ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, gyda ffocws ar ymyrryd yn gynt a chefnogi’r mwyaf abl a thalentog.  Mae’r GDD hefyd yn cefnogi gweithredu amcan 3, sy’n cyfeirio at ddatblygu “ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth, tegwch a lles.”

Diffiniad estynedig o ddefnyddio’r GDD:

“Dylid defnyddio’r GDD i gefnogi anghenion yr holl blant sydd yn, neu sydd wedi bod, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn y ddwy flynedd flaenorol, neu blant sy’n derbyn gofal.  Bwriedir i’r GDD roi cymorth i ddysgwyr sydd o dan anfantais i oresgyn y rhwystrau ychwanegol sy’n atal y rheini o gefndiroedd difreintiedig rhag cyflawni eu potensial yn llawn.”

BETH YW DYRANIADAU GDD?

O fis Ebrill 2018, gwyddom y dyrennir y GDD i:

  • Gefnogi dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a addysgir mewn ysgolion a gynhelir;
  • Dysgwyr sydd â chofrestriad sengl mewn uned cyfeirio disgyblion (UCD) ac mewn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS);
  • Dysgwyr cymwys mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ble mae darpariaeth Cyfnod Sylfaen;
  • Plant mewn gofal (PMG) a phlant a arferai dderbyn gofal sydd wedi’u mabwysiadu o ofal, neu rai 3-15 oed sy’n destun gwarchodaeth arbennig neu orchymyn preswyliad.

Yn ychwanegol bydd:

  • Y GDD Blynyddoedd Cynnar (BC) yn cynyddu o £600 i £700;
  • Y GDD yn darparu isafswm i bob ysgol, cyfwerth ag un dysgwr (£1,150)
  • y GDD yn seiliedig ar fformiwla GDDBC symlach ar gyfer ysgolion
  • Diffiniad GDD wedi’i ehangu – i gynnig yr hyblygrwydd i ysgolion i gefnogi dysgwyr sydd wedi cael prydau ysgol am ddim yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gweler uchod.
  • Lefelau dyraniad wedi’u sicrhau am y ddwy flynedd ariannol nesaf; a defnyddir cyfrifiad ysgolion 2016 ar gyfer ariannu.

CANLLAWIAU GDD I YSGOLION / LLEOLIADAU:

Cynllun Datblygu Ysgol:

Mae’n ofyn statudol bod gan bob ysgol yng Nghymru gynllun datblygu ysgol (CDY) mewn lle.  Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod y consortia addysg rhanbarthol yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio eu CDY fel dull o gynllunio eu defnydd o’r GDD ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim lle bo’n briodol. 

Dylid defnyddio’r GDD i: 

  1. Gefnogi pob dysgwr hPYD drwy adnabod disgyblion yn gynnar a’u tracio’n effeithiol.  Mae hyn yn cynnwys y dysgwyr mwy galluog. 
  2. Datblygu staff addysgu a staff cymorth i ddefnyddio arferion megis metawybyddiaeth, meddylfryd o dwf ac adborth o ansawdd, arferion yr ystyrir ar hyn o bryd fel y rhai mwyaf effeithiol gyda dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig.  
  3. Ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael â gwendidau, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd. Mae hyn yn berthnasol i’r blynyddoedd cynnar, yn ogystal â phan fo disgyblion yn dechrau yn yr ysgol uwchradd ac yn ystod cyfnodau pontio allweddol.  
  4. Sicrhau y targedir mwy o adnoddau yng nghyfnod allweddol 3, yn y dosbarth ac mewn gweithgareddau cyfoethogi, a chodi dyheadau, tra cydnabyddir pwysigrwydd Blwyddyn 11 i bob dysgwr.  Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl i ysgolion uwchradd gyflawni targed uchelgeisiol o fuddsoddi 60% o’r GDD mewn dysgwyr CA3.
  5. Sicrhau y cyhoeddir pob datganiad GDD.

Bydd angen i ysgolion gysylltu â’u hawdurdod lleol mewn perthynas â phwy sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ac effaith cyflwyno Credydau Cynhwysol. 

CEFNOGAETH RANBARTHOL:

Mae model cynllun busnes GwE ar gyfer y GDD wedi’i weithredu’n llawn yn y rhanbarth ac mae’n amlinellu sut y bydd y consortia yn defnyddio eu hadnabyddiaeth o ysgolion a gwaith ymchwil i hwyluso rhannu arferion gorau a chydweithio er mwyn gwella deilliannau dysgwyr, a hynny o fewn system hunan wella.

Yn ddi-os, mae perthynas uniongyrchol rhwng cyrhaeddiad addysgol a ffyniant economaidd, ac yn syml, nid yw llawer o’r dysgwyr hPYD a effeithir yn y rhanbarth yn cyflawni eu potensial yn llawn.  Mae’n wir bod llawer o ddysgwyr bregus yn llwyddo yn ein hysgolion. Serch hynny, mae perfformiad rhai grwpiau o ddysgwyr ymhell y tu ôl i berfformiad a llwyddiannau grwpiau eraill o hyd. 

Mae’r consortia rhanbarthol wedi datblygu strategaeth GDD un tudalen y gall ysgolion a lleoliadau ei gweithredu, ac mae’r ffocws ar:

  1. Atebolrwydd a Dull Ysgol Gyfan
  2. Adnabod Dysgwyr yn Gynnar a’u Tracio
  3. Dysgu ac Addysgu
  4. Darpariaeth a Chymorth Ychwanegol
  5. Arfarnu a Mesur Effaith

Gweler gopi o’r fframwaith GDD / Dysgwyr Bregus yn yr adran gwybodaeth ddefnyddiol. 

RÔL YR YMGYNGHORYDD GDD RHANBARTHOL:

Mae gan YCG Llesiant y Consortia gyfrifoldeb cyffredinol am y strategaeth GDD, ac mae’n cynrychioli’r rhanbarth ar y grŵp llywio GDD cenedlaethol.  Yr Ymgynghorydd fydd y prif gyswllt ar gyfer ysgolion o ran ymyraethau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  Cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant cyswllt am ragor o wybodaeth a chymorth.

RÔL YR YMGYNGHORYDD CEFNOGI GWELLIANT CYSWLLT:

Mae gan y Consortia Addysg Rhanbarthol gyfrifoldeb i fonitro eich cronfeydd GDD o fewn cyd-destun yr agenda gwella ysgol ac yn unol â gofynion LlC i’r consortia gynhyrchu cynllun cymorth blynyddol.   Bydd gan eich Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant (YCG) cyswllt a’r YCG Llesiant feini prawf/cwestiynau monitro clir er sicrhau ansawdd o ran sut y defnyddir y cyllid a’i effaith ar ddysgwyr bregus.  Defnyddir yr wybodaeth hon i adnabod arferion llwyddiannus mewn ysgolion ac adnabod effaith y GDD ar gyflawniadau disgyblion. Bydd hyn hefyd yn adnabod meysydd penodol ar gyfer gwelliant yn y rhanbarth ac yn sicrhau y rhoddir ymyraethau ar waith i fynd i’r afael â’r rhain.

ATEBOLRWYDD A THYSTIOLAETH O GRONFEYDD GDD

O fewn amodau a thelerau’r GDD mae gofyn i ysgolion a lleoliadau gyhoeddi eu cronfeydd GDD a’u blaenoriaethau yn flynyddol.  Gellir gwneud hyn drwy wefan/llawlyfr yr ysgol neu ei anfon i GwE.  Gall ysgolion ddefnyddio eu CDY/ffurflen monitro eu hunain i rannu’r wybodaeth, neu gwblhau templed rhanbarthol GwE.

Gweler gopi o’r templed GDD yn yr adran gwybodaeth ddefnyddiol. 

Templed Datganiad GDD ar gyfer Ysgolion

PRIF GYSWLLT