TEDxGwE

DIGWYDDIAD CYFRI'R DYDDIAU CYN COP26

Yn ein digwyddiad TEDx arloesol yn Theatr Clwyd cyflwynodd blant ysgolion gogledd Cymru y sgyrsiau TED a ganlyn i alw am weithredu ar newid hinsawdd. 

Daeth bron i 100 o blant a phobl ifanc o ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyd a lled gogledd Cymru ynghyd mewn digwyddiad TEDx arloesol yn Theatr Clwyd ar 1 Tachwedd i alw am fwy o weithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd er mwyn creu gwell dyfodol i genedlaethau’r dyfodol. 

Cafodd y digwyddiad –  TEDxGwE: Cyfri’r Dyddiau cyn COP26   – ei drefnu trwy bartneriaeth rhwng GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru), Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru, Adfywio Cymru a Do-Well (UK) Ltd.

Iolo Williams, sy’n gyflwynydd teledu a radio, naturiaethwr, awdur ac arweinydd teithiau bywyd gwyllt oedd Cadeirydd y digwyddiad. 

Roedd yn rhan o gyfri’r dyddiau cyn COP26 (Cynhadledd y Pleidiau), sef Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow ym mis Tachwedd.  Y nod oedd dod â phartneriaid o bob cwr o’r rhanbarth ac o bob sector at ei gilydd i wrando ar blant a phobl ifanc y rhanbarth yn cyflwyno eu Sgyrsiau TED eu hunain am newid hinsawdd. 

Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yn cynnwys Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Maesglas, Ysgol Pentrecelyn, Mochdre, Ysgol Alun, Castell Alun, Ysgol Cerrigydrudion, Ysgol Y Foel, Ysgol Abererch, Ysgol San Siôr ac  Ysgol Clywedog. 

I’w helpu i baratoi, cafodd y bobl ifanc hyfforddiant siarad cyhoeddus a’u mentora gan arbenigwyr arweinyddiaeth Do-Well a Krish Patel, sy’n hyfforddwr, awdur a sylfaenydd llwyfan adrodd straeon Tales to Inspire, er mwyn eu helpu i siapio eu Sgwrs TED i ennyn diddordeb, i ysbrydoli, i ddylanwadu ac i alw am weithredu. 

Meddai Gavin Cass, Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant gyda GwE:  “Mae sicrhau digwyddiad TEDx yn gyflawniad aruthrol i’n rhanbarth, a bydd yn cynnig llwyfan byd-eang i bobl glywed llais ein pobl ifanc yn y dyddiau cyn COP26.  Fe’m syfrdanwyd gan y straeon pwerus i mi eu clywed gan blant a phobl ifanc wrth iddynt baratoi at ein digwyddiad TEDx.  Mae ganddynt neges gadarn, bod angen i ni weithredu yn awr i fynd i’r afael â newid hinsawdd er mwyn amddiffyn ein planed a sicrhau gwell dyfodol i genedlaethau’r dyfodol.” 

Meddai Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu â Pholisi Cyhoeddus, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, sy’n cefnogi TEDxGwE drwy Genhadaeth Ddinesig:  “Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i blant a phobl ifanc ar hyd a lled gogledd Cymru gael dylanwad ar arweinwyr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng nghyd-destun yr her sydd yn ein wynebu ni i gyd o ran newid hinsawdd. Pleser o’r mwyaf yw gallu cynnig ein cefnogaeth drwy Genhadaeth Ddinesig y Brifysgol, sydd â’r nod o roi terfyn ar anghydraddoldeb cymdeithasol yng ngogledd Cymru erbyn 2030, oherwydd cydnabyddwn bod mynd i’r afael â her newid hinsawdd yn rhan hanfodol o’r agenda hon.  Does neb yn well na ein pobl ifanc i ledaenu’r neges hanfodol hon, sydd â’u dyfodol yn dibynnu ar benderfyniadau ein harweinwyr yn awr, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw iawn at glywed eu Sgyrsiau TED yn y digwyddiad arloesol hwn, a fydd gobeithio yn ysbrydoli newid go iawn yn yr hir dymor.”   

 

Mae TEDx Countdown yn fenter fyd-eang sy’n ysbrydoli cynnal digwyddiadau dan arweiniad cymunedau ar hyd a lled y byd i roi sylw i heriau mawr y dyfodol.  Cydnabyddir budd cydweithio ar draws bob sector a diwydiant i ddod o hyd i’r datrysiadau a’r dyfeisiau mwyaf effeithiol a lunnir ar y cyd. 

FIDEOS SGYRSIAU TED
     
Ysgol Clywedog
Thinking Like Bees
 
Ysgol Cerrigydrudion
Taith Bwyd
 
Ysgol Abererch
Manteision Garddio
 
Ysgol San Siôr
Micro Plastics
             
     
Ysgol Maesglas
Schools as Solar Farms
 
Ysgol Cystennin
Sustainable Palm Oil
 
Ysgol Castell Alun
Ocean Acidification
 
Ysgol Alun
Meat Free Monday
             
     
Ysgol Pentrecelyn
Cefnogi Bwyd a Chynnyrch Lleol
 
Ysgol Castell Alun
How We All Need to Make Small Changes in the Fight Against Climate Change
 
Ysgol y Foel
Climate Neutral Schools
 
Ysgol Uwchradd Bodedern
Ffermio Fertigol
             
           
Ysgol Alun
Making a Difference