Asesu

Cymedroli Cyfnod Allweddol 2 a 3

Yn unol â gofynion statudol, mae gofyn i ysgolion i drefnu cyfarfodydd cymedroli yn y Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Gweler yr amserlen am fwy o wybodaeth.

GWEITHREDOEDD A CHYFRIFOLDEBAU AMSERLEN CYFRANOGWYR
Clystyrau i adnabod ‘Arweinydd Asesu’ ar gyfer CA2 a CA3. Eu rôl fydd derbyn a rhannu gwybodaeth am y broses i weddill y clwstwr. Anfon yr enwau, e-bost a rhif ffôn at:
dafyddrhys@gwegogledd.cymru
erbyn Dydd Gwener, 31 Ionawr 2020
Penaethiaid
Cyfle i ‘Arweinwyr Asesu’ fynychu sesiwn gwybodaeth leol gyda GwE – bwriadwn gynnal sesiynau hwyrnos ar draws y rhanbarth. Wythnos yn dechrau Dydd Llun, 10 Chwefror 2020 ‘Arweinwyr Asesu’
Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE

‘Arweinwyr Asesu’ i sicrhau fod pob ysgol o fewn y clwstwr yn ymwybodol o ofynion safoni a chymedroli a’r adnoddau sydd ar gael.

Anfon dyddiadau cyfarfodydd cymedroli clwstwr terfynol i GwE.

Gyrru’r dyddiadau i:
dafyddrhys@gwegogledd.cymru
Erbyn Dydd Gwener, 28 Chwefror 2020
Penaethiaid
Arweinwyr Asesu
Clystyrau i safoni ac ysgolion i gymryd rhan
mewn deialog proffesiynol a chymedroli mewno
Tymor yr Hydref – Gwanwyn Athrawon yn yr ysgolion
Penaethiaid / Arweinwyr Asesu i drefnu a
hyrwyddo cyfarfodydd clwstwr ar gyfer deialog proffesiynol a chymedroli cyrhaeddiad disgyblion.

Mae’r gofynion statudol yn nodi y dylid
cymedroli gwaith un disgybl ar Lefel 4 a 5 yn CA2 a Lefel 5 a 6 yn CA3 yn y pynciau craidd.

Cyfarfodydd cymedroli clwstwr terfynol i ddigwydd yn nhymor y Gwanwyn a/neu’r Haf. Penaethiaid
Arweinwyr Asesu
Ysgolion yn y clwstwr
Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant
Bydd Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.    

 

Lawrlwythwch copi o’r amserlen yma.

GWYBODAETH BWYSIG

Trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau diwedd Cyfnod Sylfaen 2017-18

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad parthed trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau diwedd Cyfnod Sylfaen 2017-18. Cliciwch ar y linc i ddarllen y datganiad.

Ymateb Llywodraeth Cymrui adolygiad thematig Estyn o gymedrli asesiadau athrawon CA2 a CA3

Ymateb i adroddiad Estyn o Ymateb i adolygiad thematig Estyn o gymedroli asesiadau athrawon yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3:adolygiad o gywirdeb a chysondeb.

Diogelu Asesiadau Athrawon – Rhaglen Ddilysu Allanol
Adroddiad ar Gynnydd y Rhaglen – Medi 2016

Gweler yn y ddogfen isod ddiweddariad byr ar ddiwedd ail flwyddyn Rhaglen Ddilysu Allanol Llywodraeth Cymru i Ddiogelu Asesiadau Athrawon. Mae’r adroddiad byr yn amlinellu gwybodaeth mewn cysylltiad â:

  • Gweithgareddau’r rhaglen, dyrannu dilyswyr a chrynodeb o’r ymweliadau
  • Canfyddiadau cychwynnol o ail flwyddyn y rhaglen
  • Camau allweddol a nodwyd yn yr adroddiad drafft cychwynnol (Gorffennaf 2016)

Caiff yr adroddiad terfynol ar ail flwyddyn y rhaglen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016.

Adroddiad thematig newydd gan Estyn:

Cymedroli asesiadau athrawon yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3: adolygiad o gywirdeb a chysondeb

Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen yr adroddiad:

Cymedroli asesiadau athrawon yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3: adolygiad o gywirdeb a chysondeb
Medi 2016

Deunyddiaeth Enghreifftiol CA2 a CA3

Cliciwch yma i weld llythyr gan Gyfarwyddwr a Rheolwr y ‘Rhaglen Wirio Allanol ar gyfer Diogelu Asesiadau Athrawon’ parthed Deunyddiau Enghreifftiol CA2 a CA3.

Asesiadau Athrawon yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3

Yn ystod tymor y gwanwyn 2015 cymerwyd camau gennym i sicrhau bod prosesau cadarn yn eu lle ym mhob ysgol a chlwstwr yn y rhanbarth er mwyn sicrhau ansawdd, cysondeb a dibynadwyedd asesiadau athrawon. Mae’r prosiect hwn yn ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru ‘Atgyfnerthu hyder mewn asesiadau athrawon: y broses o’r dechrau hyd at y diwedd i sicrhau ansawdd, cysondeb a dibynadwyedd’ a gyhoeddwyd ar wefan Dysgu Cymru ym mis Rhagfyr 2014 (http://learning.wales.gov.uk/resources/browse-all/process-for-teacher-assessment/?skip=1&lang=cy).

Tra’n cydnabod yr arfer dda sydd yn bodoli mewn nifer o ysgolion a chlystyrau o ysgolion ar draws y rhanbarth o ran asesu, safoni a chymedroli asesiadau athrawon, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cysondeb yn rhanbarthol yn hyn o beth.

Ein nod yw sefydlu trefn ar gyfer cymedroli Asesiad Athro fydd yn arwain at sicrhau bod asesiadau athrawon yn fwy manwl gywir a dibynadwy. Byddwn yn rhoi sylw i sicrhau gwell cysondeb yn y modd y mae ysgolion yn dod i ddyfarniad cyd-fynd orau wrth bennu lefel diwedd cyfnod allweddol a gwell cysondeb yn y modd y mae ysgolion a chlystyrau o ysgolion yn safoni a chymedroli.

Yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2014/15, bellach mae’n statudol i ysgolion, onibai am ysgolion arbennig, i gymryd rhan mewn cymedroli clwstwr. Isod mae’r Offeryn Stadudol Cymru sydd yn cyfeirio at gymedroli clwstwr.

Safoni a Chymedroli

Proffiliau Cenedlaethol

Bwriad y proffiliau yw cynorthwyo athrawon o ran y mathau o dystiolaeth y gallan nhw eu cymryd i gyfarfod clwstwr er mwyn cefnogi’r canfyddiadau cyd-fynd orau a wnaethpwyd. Mae’r proffil hefyd yn dangos bod y dystiolaeth i’w chanfod yn bennaf yn llyfr y disgybl, ac felly eisoes ar gael i’r athrawon.

Mae’r proffiliau hefyd yn cynnwys sylwebaeth fanwl sy’n cynnig eglurhad clir pam y cafodd y lefel cyd-fynd orau ei phennu. Does dim awgrym na disgwyliad bod angen cynhyrchu proffil ar gyfer pob disgybl yn y cohort nac ychwaith i athrawon ysgrifennu sylwebaeth mor gynhwysfawr. 

Cydnabyddir fod gan ysgolion a chlystyrau amrywiaeth o ddulliau i gofnodi’r dystiolaeth sydd yn cefnogi’r dyfarniad cyd-fynd orau. Mae’n gwbl dderbyniol cymryd y rhain i’r cyfarfod cymedroli clwstwr.