Cyfnod Sylfaen
Addysg Feithrin ar gyfer Plant 3 a 4 oed yng Nghymru
Meithrin y Cyfnod Sylfaen: Canllawiau i Rieni a Gofalwyr
Gweler ganllaw Meithrin o fewn y Cyfnod Sylfaen i rieni a gofalwyr gan Lywodraeth Cymru. Diben y canllawiau yw rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am sut a phryd y gall eu plentyn elwa ar ddarpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen.
GWYBODAETH BWYSIG
Trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau diwedd Cyfnod Sylfaen 2017-18
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad parthed trefniadau ar gyfer cynnal asesiadau diwedd Cyfnod Sylfaen 2017-18. Cliciwch ar y linc i ddarllen y datganiad.
Diwygiadau i Broffil y Cyfnod Sylfaen ar gyfer Asesiadau Sylfaenol
Yn sgil y sylwadau a gasglwyd mewn arolwg barn ymhlith ymarferwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi newid geiriad pedair ffrâm sgiliau o fewn Proffil Cryno y Cyfnod Sylfaen er mwyn eu gwneud yn gliriach. Rydym yn annog y rhai sy’n cynnal asesiadau sylfaenol o blant ar ddechrau’r Flwyddyn Derbyn i ddefnyddio’r fersiynau diwygiedig, gan mai bwriad y rhain yw egluro’r gwahaniaeth rhwng gwahanol lefelau datblygiad plant. Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth.
Proffil y Cyfnod Sylfaen
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn diwygiedig o ‘Lawrlyfr Proffil y Cyfnod Sylfaen’ (Medi 2017).
Dilynwch y ddolen hon i dderbyn y fersiwn diweddaraf o’r proffil.