Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae GwE yn gweithio ar y cyd â dau ddarparwr arloesol ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon yng ngogledd Cymru, sef Y Brifysgol Agored a phartneriaeth AGA CaBan (Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer).  

Y Brifysgol Agored

O fis Medi 2020, bydd y Rhaglen Athrawon Graddedig yn diflannu yng Nghymru. Y gobaith yw y bydd y Brifysgol Agored yng Nghymru, ar y cyd â’r consortia a Llywodraeth Cymru, yn cynnig dau lwybr newydd i yrfa mewn addysgu, sef TAR â chyflog a TAR rhan-amser. Bydd y ddau lwybr yn cynnig cymysgedd o sesiynau ar-lein a wyneb yn wyneb, efo mentoriaid a thiwtoriaid ymarfer. Bydd 120 diwrnod o brofiad ymarferol hefyd, ar draws dwy ysgol.

LLWYBR Â CHYFLOG [LLAWN-AMSER]

Os ydych chi eisoes yn gweithio mewn ysgol, boed yn gymhorthydd dysgu, neu mewn rôl heb fod yn un addysgu, gallwch wneud cais i’ch ysgol roi nawdd i chi astudio. Bydd angen i’ch ysgol gytuno i chi wneud cais am y llwybr hwn. Cewch eich cyflogi yn llawn amser, ar raddfa athro heb gymhwyso. Byddwch yn astudio am eich TAR tra byddwch hefyd yn cyflawni eich dyletswyddau arferol yn yr ysgol. Telir costau eich cwrs yn llawn. Byddwch mewn lleoliad ysgol yn llawn-amser dros y ddwy flynedd, ac yn cwblhau eich astudiaethau academaidd ar yr un pryd. Gall Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o gyfraniad i’r ysgol tuag at eich cyflog os ydych yn astudio i fod yn addysgu pwnc â phrinder.

LLWYBR RHAN-AMSER

Os nad ydych chi’n gweithio mewn ysgol, neu os nad yw’r llwybr â chyflog yn iawn i chi, mae opsiwn rhan-amser. Mae’n ddelfrydol os ydych chi eisiau astudio am eich TAR o gwmpas eich swydd bresennol neu ymrwymiadau eraill. Gallwch ariannu’r llwybr hwn eich hun, neu wneud cais am fenthyciad i fyfyrwyr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser i helpu efo’r costau. 

Bydd peilot o’r cwrs TAR Gwyddoniaeth Uwchradd yn dechrau yn y Gwanwyn, 2020.  Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd, felly dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb nodi hynny cyn gynted â phosibl ar Wales-PGCE@open.ac.uk Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn hefyd i holi unrhyw beth am y ddau lwybr gwahanol. 

Bydd y TAR Rhan-amser a’r TAR â Chyflog ar gael ar draws cyfnodau a phynciau â blaenoriaeth yn yr Hydref, 2020 (y pynciau â blaenoriaeth am y tro fydd Gwyddoniaeth, Mathemateg, D&Th ac ITM).

Am ragor o wybodaeth, neu i drafod y llwybrau newydd, cysylltwch â ceriwilliams3@gwegogledd.cymru  

Dyma ble y cewch ragor o wybodaeth am y llwybrau gwahanol hyn er mwyn dod yn athro:

https://llyw.cymru/addysg-gychwynnol-i-athrawon

http://www.open.ac.uk/courses/choose/wales/pgce

Partneriaeth AGA CaBan

Partneriaeth rhwng GwE, Prifysgol Bangor, Y  Sefydliad Cydweithredol er Ymchwil i Addysg, Tystiolaeth ac Effaith a’n ysgolion arweiniol a rhwydwaith yw CaBan. Mae rhaglenni’r bartneriaeth wedi’u teilwra i fynd i’r afael â Cwricwlwm i Gymru ac anghenion y byd addysg yng ngogledd Cymru.

Dyma’r cyrsiau a gynigir:

CaBan ym Mangor: TAR Cynradd (3-11 oed) gyda SAC

Bwriad y cyrsiau TAR hyn, dros flwyddyn, yw rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o sut y mae plant yn dysgu, yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn athro neu’n athrawes greadigol ac arloesol.

 

BA (Anrh) mewn Addysg Gynradd gyda SAC (3-11 oed) – Prifysgol Bangor

Mae’r cwrs gradd tair blynedd hwn, gyda SAC, yn arwain at gymhwyster athro cynradd i addysgu yng Nghymru. Gellir defnyddio’r cymhwyster mewn gwledydd eraill hefyd, gan gynnwys Lloegr.

 

CaBan ym Mangor: TAR Uwchradd gyda SAC

Cynllunnir y rhaglen TAR Uwchradd i roi dealltwriaeth gadarn i chi o sut y mae plant a phobl ifanc yn dysgu. Cynigir ystod eang o bynciau, gan gynnwys AG gydag Addysg Awyr Agored, yr unig ganolfan yng Nghymru ble cynigir hyn.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni neu ewch i wefan CaBan.