Ieithoedd Tramor Modern

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Dyfodol Byd-eang ac ymrwymiad i ehangu addysgu Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru. Y weledigaeth yw i Gymru ddod yn genedl gwirioneddol amlieithog.  Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn gweddnewid ein cyfundrefn addysg ac yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddysgu iaith ar draws ein holl ysgolion a’n lleoliadau.

Nod y rhaglen yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael profiad o’r amryw o fanteision a ddaw wrth ddysgu Ieithoedd Rhyngwladol, gan gynnwys ehangu eu gorwelion trwy ddysgu am bobl a diwylliannau eraill a rhoi iddynt y sgiliau iaith i gystadlu yn yr economi fyd-eang.  Wrth wneud hyn, gallwn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd. 

Y prif strategaeth yw  rhoi ein hamser, ein gwybodaeth a’n harbenigedd i’n hysgolion a’n hathrawon er mwyn cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd wrth ddysgu iaith, yn ogystal â  chyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. 

 

Mae’r cynllun tair blynedd newydd ar gyfer 2022-2025 yn gosod allan dri nod strategol: 

  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ystyrlon yng Nghymru
  • rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiadau i’n hymarferwyr i gynllunio a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol
  • herio’r camdybiaethau o ran dysgu ieithoedd

 

Braint yw parhau yn fy rôl fel Arweinydd Dyfodol Byd-eang a Ieithoedd Rhyngwladol Consortiwm GwE yn y cyfnod newydd a chyffrous hwn.

Yma yng ngogledd Cymru, mae ein hathrawon ITM a’n cyd-weithwyr cynradd yn ymroddgar ac yn hynod dalentog, wastad yn gwneud eu gorau glas i roi’r profiadau dysgu gorau i’w myfyrwyr.

Dyna pam yr wyf i’n ffyddiog y gallwn ni, ac y byddwn ni, gyda’n gilydd, yn parhau i ddatblygu ein gwaith er mwyn hyrwyddo a darparu’r profiadau dysgu iaith gorau un i ddysgwyr.

Rwy’n ffodus iawn o gael tîm anhygoel o fy nghwmpas yn y sector cynradd a’r uwchradd. Gyda’n partneriaid Dyfodol Byd-eang gallwn ddarparu ystod eang a rhaglen gyfoethog o gefnogaeth a chyfleoedd i ddysgwyr, ymarferwyr a lleoliadau ysgol. 

O ddysgu proffesiynol i gymorth ysgol i ysgol pwrpasol, mae ein gwaith yn cyfrannu at ddatblygiadau Cwricwlwm i Gymru.

Dylai Canolfan Cefnogaeth GwE, y newyddlenni bob hanner tymor, y negeseuon e-bost, Bwletin GwE a Twitter roi’r rhan fwyaf o wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y datblygiadau newydd mewn Ieithoedd Rhyngwladol yn GwE.

Ond cofiwch, mae croeso i chi gysylltu â mi a Thîm Dyfodol Byd-eang cynradd neu uwchradd GwE unrhyw bryd am fwy o fanylion neu i ofyn cwestiwn. Byddwn bob amser yn barod i helpu. 

Stephanie Ellis-Williams

Stephanie Ellis-Williams

Arweinydd Dyfodol Byd-eang / Ieithoedd Rhyngwladol GwE

stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru

0300 5008087 / 07970 964117

Cysylltiadau a Dolenni Defnyddiol

Newyddlenni:

Tîm Cynradd Dyfodol Byd-eang GwE

YSGOL

ALL

CYDLYNYDD IRH

CYFEIRIAD E-BOST CYSWLLT

Beddgelert Gwynedd Esyllt Williams WilliamsE1863@hwbcymru.net
Y Golftyn CP Sir y Fflint Claire Thompson ThompsonC50@hwbmail.net
Clawdd Offa Sir Ddinbych Angharad Lloyd BeckA6@hwbcymru.net
St Brigids Sir Ddinbych Emma Adams CooperE87@hwbcymru.net
Penysarn Ynys Môn Delyth Roberts 6602162_pennaeth.penysarn@hwbcymru.net
Mountain Lane Sir y Fflint Ffion Zachary ZacharyF@hwbcymru.net
Y Tudweiliog Gwynedd Julie Williams williamsj99@hwbcymru.net
Deganwy Conwy Lisa Eardley EardleyL9@hwbcymru.net
Northop Hall Sir y Fflint Joanne Griffith GriffithJ14@hwbcymru.net

 

Ar gael am gymorth, cyngor neu anghenion penodol.

Tîm Uwchradd Dyfodol Byd-eang GwE
Arweinydd Hwb Wrecsam / Sir y Fflint Lynette Sloan Ysgol y Grango Sloan10@hwbcymru.net
Arweinydd Hwb Conwy / Sir Ddinbych Viviane Vick Prestatyn High vvick@prestatynhigh.co.uk
  Jamie McAllister Ysgol Aberconwy Jamie.mcallister@aberconwy.conwy.sch.uk
Arweinydd Hwb Gwynedd / Ynys Môn Emma Green Ysgol Dyffryn Ogwen greene54@hwbcymru.net

 

Ar gael am gymorth, cyngor neu anghenion penodol.