Gwybodaeth Grantiau Llywodraeth Cymru

Grant Gwella Addysg

Grant Gwella Addysg 2022-2023

Yn ôl y canllawiau, mae’n rhaid i’r Grant Gwella Addysg fod wedi’i ddirprwyo o leiaf 80% i ysgolion.

Yn dilyn penderfyniad y chwe awdurdod lleol, mae’r ffigyrau ar gyfer rhanbarth GwE bellach yn derfynol ac mae’n bleser gennyf ddweud wrthych y bydd ysgolion yn cael o leiaf 89.50% o’r GGA.

Byddwch eisoes wedi cael cadarnhad o’r swm a gaiff eich ysgol gan dîm cyllid eich awdurdod lleol (trosglwyddir hwn yn uniongyrchol i gyllideb eich ysgol).

Ar ben hyn, mae 5.50% o’r gyllideb wedi’i hymrwymo i ddarpariaeth uniongyrchol mewn ysgolion targed (e.e. cydlynwyr iaith) ac yn cael ei rheoli gan yr awdurdodau lleol. Mae 1.00% arall wedi’i dyrannu i awdurdodau lleol er mwyn darparu gweithgareddau targed yn lleol a dyrennir 3.28% arall i gefnogi Sefydlu Statudol ANG, ynghyd â chyllid ar gyfer blaenoriaethau rhanbarthol i dargedu cynhaliaeth mewn Llythrennedd a Rhifedd a chydlynu’r Cyfnod Sylfaen yn rhanbarthol – darperir y cyfan gan GwE. Mae hynny’n gadael 0.72% yn weddill i GwE a’r Awdurdodau weinyddu’r Grant.

Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru i’r consortia rhanbarthol a’r Awdurdodau Lleol yn nodi’n glir nad oes angen cynlluniau gwariant grant ar lefel ysgol unigol ac y bydd “Cynghorwyr Herio” (Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant) “yn rhoi cymorth i ysgolion i sicrhau bod eu cynlluniau datblygu yn adlewyrchu’n briodol eu taith at wella a’u blaenoriaethau lleol.”

Er mwyn cefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r disgwyliad hwn, rydym wedi llunio’r tabl atodol sydd yn rhestru holl “ddibenion y grant” ac, felly, categorïau’r gwariant sy’n gymwys.

Er mwyn cefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r gofyniad hwn, crëwyd adran i’w chwblhau yn y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau.

Ar gyfer pob arian grant, ar wahân i’r Cyfnod Sylfaen, mae gennych yr hyblygrwydd i’w ddyrannu yn unol â’r angen rydych chi wedi’i adnabod drwy eich hunan arfarniad, ac er mwyn symud ymlaen ag unrhyw weithgareddau a nodir yn eich Cynllun Datblygu Ysgol.

Gofynnir i ysgolion lwytho eu cynllun datblygu ysgol ar G6 a chwblhau’r adran berthnasol ar y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau.

Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin wedi’i llunio sydd ar gael ar y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau a G6.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y GGA, cysylltwch â’r canlynol yn y lle cyntaf:

  • Am unrhyw ymholiadau am ddyrannu cyllid a sut y dylech gael gafael arno, cysylltwch â’r tîm cyllid yn eich awdurdod lleol;

 

  • Am unrhyw ymholiadau am weithgareddau gwario cymwys, monitro a gwerthuso pa mor effeithiol yw gweithgareddau a ariennir gan y GGA, o ran gwella deilliannau dysgwyr, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant eich ysgol.
 

Lawrlwythiadau:

Grant Datblygu Disgyblion

GDD 2022-2023

Pwrpas yr arian GDD yw cefnogi Cynllun Gweithredu Safonau ac Uchelgeisiau Uchel Llywodraeth Cymru gyda’r bwriad o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae’r GDD yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dysgwyr, sydd o gartrefi incwm isel, yn llwyddo yn y dyfodol. Bydd y cyllid sydd ar gael drwy’r GDD, a’r ffordd y’i defnyddir gan ysgolion, yn allweddol er mwyn mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Bydd y Cynllun yn canolbwyntio ar yr wyth elfen ganlynol, a fydd yn allweddol i lwyddiant:

  • Dysgu ac Addysgu o safon uchel – gyda phwyslais arbennig ar yr addysgeg a ddefnyddir gan athrawon, rôl staff cymorth a’r dysgu proffesiynol a ddarperir i ymarferwyr.
  • Ysgolion Cymunedol – gyda phwyslais arbennig ar rôl y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd, rôl yr ysgol o fewn y gymuned ehangach a’r gwaith gydag asiantaethau plant a theuluoedd eraill.
  • Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar, datblygu ein gweledigaeth hirdymor i sicrhau tegwch ac ansawdd i’n dysgwyr ieuengaf ble bynnag y cânt eu haddysg neu ofal sydd yn cefnogi eu dysgu a’u datblygiad – yn unol â’r defnydd o’r GDDBC a nodir yn Atodiad D.
  • Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc – yn unol â’r Fframwaith ar Sefydlu Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol.
  • Datblygu uchelgeisiau uchel drwy berthnasoedd cryf – yn unol â rôl y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Fframwaith Ymgysylltu â Datblygu Ieuenctid, y Gwarant i Bobl Ifanc a Rhwydwaith Seren.
  • Y Cwricwlwm i Gymru a Chymwysterau – canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygiad iaith, metawybyddiaeth a hunan reoleiddio fel ffordd i alluogi llwyddiant yn y cwricwlwm newydd a chynnig ystod eang o lwybrau cymhwyster i ddysgwyr.
  • Arweinyddiaeth – canolbwyntio ar ei phwysigrwydd o ran goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac arweinyddiaeth mewn ysgolion cymunedol.
  • Dilyniant ôl-16 – drwy feithrin partneriaethau cryf â sefydliadau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a darparwyr ôl-16 eraill.

 

Dylid defnyddio’r GDD i ganolbwyntio ar yr holl elfennau hyn, yn enwedig y ddwy gyntaf, sydd o’r pwys mwyaf yn ôl y dystiolaeth, yn enwedig felly wrth i ysgolion fynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd.

Er mwyn llywio’r defnydd o’r GDD i gefnogi’r elfennau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn llunio canllawiau sydd yn benodol i gyd-destun Cymru ar gyfer ysgolion, a hynny ar y dulliau mwyaf cadarn y dylent ystyried eu defnyddio, ar sail tystiolaeth.

Bydd cyfleoedd dysgu proffesiynol i gyd-fynd er mwyn cefnogi’r gwaith o weithredu’r dulliau hyn a helpu ysgolion i amlygu’r effaith a gânt.

Dylai ysgolion fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol rhanbarthol a chenedlaethol.

Dylid defnyddio hunanarfarniad ysgolion i adnabod blaenoriaethau priodol ar gyfer defnyddio’r GDD ac amlygu ei effaith.

Grant Dysgu Proffesiynol

Grant Dysgu Proffesiynol [2023-2024]

Eleni, cyfunwyd canllawiau’r Grant Dysgu Proffesiynol â’r canllawiau newydd HMS.  Ceir mynediad atynt drwy’r gofod Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol ar Hwb.  Gweler dolen uniongyrchol isod.  Gweler y canllawiau ar gyfer y Grant Dysgu Proffesiynol yn y darn olaf o’r ddogfen.

Creu amser ar gyfer dysgu proffesiynol – Hwb (gov.wales)