Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer CPCP

Mae’r rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffroes ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol o bob cwr o Gymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.
Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Uwch. Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gyda chyfle ar gyfer achrediad, mewn partneriaeth â PCYDDS a Phrifysgol Bangor.
Y Gynulleidfa
Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.
Diben
Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.
Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:
- eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
- eu sgiliau a’u priodoleddau trwy hunan-adolygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
- eu dealltwriaeth a’u gallu i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau arweinyddiaeth mewn modd effeithiol
- eu sgiliau cydweithredu trwy gymryd rhan effeithiol mewn rhwydweithiau cyfoedion
- eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol
Bydd y rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth ymgeisio i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
Rhanbarth |
Cydlynydd |
Cyswllt |
CSC | Emma Coates Matthew Robbins |
Emma.coates@cscjes.org.uk matthew.robbins@cscjes.org.uk |
EAS | Adelaide Dunn Deb Woodward |
Adelaide.Dunn@sewaleseas.org.uk deb.woodward@sewaleseas.org.uk |
ERW | Tom Fanning Hazel Faulkner |
tom.fanning@erw.org.uk hazel.faulkner@erw.org.uk |
GwE | Rhys Williams Ann Grenet |
cpcp@gwegogledd.cymru |
Dull darparu
Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.
Gallai’r rhaglen gael ei darparu trwy fodel dysgu cyfunol.
Darperir yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y rhaglen.
Amser |
Gweithgaredd |
Cyn y Rhaglen | Hunan-adolygiad yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth (ISSR) |
Ffurflen gais | |
Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth |
· Trosolwg o’r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio · Rôl y Pennaeth · Ble’r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru · Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir. · Cynllunio Strategol – Adolygiad Hunanwerthuso a’r Rhaglen Gwella Ysgol · Tasg Profiad Arweinyddiaeth |
Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth (i) |
· Beth yw arweinyddiaeth effeithiol? · Pa fath o arweinydd ydw i? · Timau Effeithiol · Adnoddau Dynol |
Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth (ii) |
· Dulliau Arwain – Cydweithredol, Gwasgaredig, Trawsnewidiol, Sefyllfaol · Rheoli Newid · Iechyd a Diogelwch |
Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg |
· Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu · Sicrhau Ansawdd · Defnyddio Data · Mesur ac Adrodd ar Effaith · Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid |
Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol |
· Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu · Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol a thu hwnt iddi · Cefnogi twf mewn eraill · Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd · Atebolrwydd eich hun ac eraill, gan gynnwys datblygu dulliau llywodraethu effeithiol · Diogelu |
Ymgeisio (Cyn 03/11/2020)
Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer.
Er mwyn ceisio am y rhaglen hon mae angen i ymgeiswyr fod wedi cwblhau a chofnodi Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth (ASA) Rhaid i ardystiad Pennaeth neu reolwr llinell fod yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr ASA wedi’i chwblhau. Bydd angen yr ASA ar gyfer gweithdrefnau cymeradwyo rhanbarthol.
Sylwch: Cais am CPCP yw’r canlyniad disgwyliedig i gyfranogwyr y rhaglen hon.
Sesiwn Wybodaeth (ctrl + click)
Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA) (ctrl + click)
Dylid cwblhau a chyflwyno ceisiadau am y Rhaglen i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – paratoi ar gyfer CPCP erbyn 1yp ar 03/11/20.
PECYN CAIS:
DYDDIAD CAU: 1 O’R GLOCH AR DDYDD GWENER, 17 IONAWR 2020 [ESTYNNWYD I 1 O’R GLOCH AR 24 IONAWR 2020]
ADOLYGIAD SAFONAU ARWEINYDDIAETH [ASA]
NODER FOD YR ASA I’W GYFLWYNO ERBYN 1 O’R GLOCH AR 17/01/2020 [ESTYNNWYD I 1 O’R GLOCH AR 24 IONAWR 2020] TRWY E-BOST I cpcp@gwegogledd.cymru
Mae’r rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffroes ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol o bob cwr o Gymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.
Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Uwch. Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gyda chyfle ar gyfer achrediad, mewn partneriaeth â PCYDDS a Phrifysgol Bangor.
Y GYNULLEIDFA
Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.
DIBEN
Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.
Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:
- eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
- eu sgiliau a’u priodoleddau trwy hunan-adolygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
- eu dealltwriaeth a’u gallu i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau arweinyddiaeth mewn modd effeithiol
- eu sgiliau cydweithredu trwy gymryd rhan effeithiol mewn rhwydweithiau cyfoedion
- eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol
Bydd y rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth wneud cais i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
RHANBARTH | CYDLYNYDD | CYSWLLT |
CSC | Emma Coates Matthew Robbins |
Emma.coates@cscjes.org.uk matthew.robbins@cscjes.org.uk |
EAS | Peter Jenkins Deb Woodward |
peter.jenkins@sewaleseas.org.uk deb.woodward@sewaleseas.org.uk |
ERW | Tom Fanning Hazel Faulkner |
tom.fanning@erw.org.uk hazel.faulkner@erw.org.uk |
GwE | Rhys Williams Ann Grenet |
edwardrhyswilliams@gwegogledd.cymru cpcp@gwegogledd.cymru |
DULL DARPARU
Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.
Darperir yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y rhaglen.
AMSERLEN | GWEITHGAREDD |
Cyn y Rhaglen | Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth [ASA] |
Ffurflen gais | |
Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth |
|
Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth [i] |
|
Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth [ii] |
|
Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg |
|
Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol |
|
YMGEISIO
Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig iddynt.
Dylai ceisiadau am y rhaglen hon gael eu hardystio gan Bennaeth eich ysgol neu gan eich rheolwr llinell, yn dilyn trafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar gwblhau Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais yw 1yp ar 17/01/20 [ESTYNNWYD I 1 O’R GLOCH AR 24 IONAWR 2020].
Noder: Cais ar gyfer CPCP yw’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hon.
SESIYNAU GWYBODAETH
Cynhaliwyd y sesiynau gwybodaeth i gyd bellach.
