PMG a Dysgwyr Bregus

CYNLLUN RHANBARTHOL GwE AR GYFER PLANT MEWN GOFAL A DISGYBLION BREGUS

Cynllun Rhanbarthol sy’n ymateb i Anghenion Lleol

Mae GwE yn ymwybodol bod nifer helaeth ohonoch ar draws y rhanbarth wedi elwa o’r hyfforddiant sydd wedi cael ei gynnig eisoes. Mae’r adborth a dderbyniwyd gennych hyd yma wedi bod yn hynod bositif a nifer yn rhoi sylwadau ar safon uchel yr hyfforddiant.

Rhwng mis Ebrill 2016 a Mawrth 2017, byddwn yn darparu rhaglen o hyfforddiant ar eich cyfer chi eto.

Bydd rhai cyrsiau hyfforddiant ar gael fesul awdurdod, eraill fesul dalgylch ac eraill eto yn benodol i’ch gofynion chi.

NODWCH FOD DEUNYDDIAU’R CYRSIAU CANLYNOL AR GAEL YN DDWYIEITHOG OND BYDD Y CYRSIAU’N CAEL EU CYFLWYNO DRWY GYFRWNG Y SAESNEG YN UNIG

Deall plant sydd wedi’u heffeithio gan drawma datblygiadol a gweithio gyda hwy gan Jane Evans

Bydd hyfforddiant Jane Evans yn archwilio sut y mae trawma cynnar yn llywio tyfiant a datblygiad ymennydd a chorff plentyn, a’r effaith gaiff hyn ar ei allu i:

  • Ganolbwyntio ac ymlacio
  • Cynnal a chadw perthnasau ystyrlon
  • Mwynhau iechyd a lles emosiynol
  • Bod aga argraff gadarnhaol ohono’i hunan
  • Lleihau ymddygiad cymhleth a heriol
  • Teimlo chwilfrydedd a llawenydd
  • Gallu ymroi i ddysgu a chofio’r hyn a ddysgwyd

Dyddiadau a Lleoliadau

07.02.2017 Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Bae Colwyn Cofrestrwch yma
08.02.2017 Gwesty’r Beaufort Park, Yr Wyddgrug Cofrestrwch yma

Sut alla i gofrestru i fynychu unrhyw un o’r cyrsiau hyn?

Anfon e-bost at sianlloydjones@gwegogledd.cymru o Ionawr 2017

Eleni eto bydd cyfle i fwy fynychu yr hyfforddiant canlynol ar lefel traws-sirol.

Pivotal

2 ddiwrnod – Hyfforddiant Train the Trainer

Mae Pivotal yn cyflwyno hyfforddiant ymarferol, trwyadl a chynaliadwy drwy fodelau hyfforddi hyblyg.
Mae hyfforddiant Pivotal yn ysbrydoledig ac ymarferol. Rydym yn ysgogi oedolion i wynebu eu hymddygiad eu hunain, datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ymddygiad plant a’u plethu yn ymagwedd gyson.
Rydym yn dangos ffyrdd ymarferol i greu a chynnal amgylchedd cadarnhaol, cefnogol a diogel sy’n gweithio i bob plentyn a phob oedolyn.
Mae dull hyfforddi Pivotal mewn ysgolion yn herio’r ymarfer sy’n bodoli’n barod. Mae Pivotal yn hyfforddi athrawon i gydnabod ymddygiad sydd ‘y tu hwnt’ i ddisgwyliadau, a gwneud i blant deimlo’n werthfawr ac yn bwysig.
Caiff ymddygiad ardderchog ei fodelu ond gellir ei ddysgu hefyd. Mae Pivotal yn gwybod y gellir dysgu gwell ymddygiad a gwell arferion i blant. Pan mae ymddygiad athrawon yn newid, mae popeth yn newid.

Sut alla i gofrestru i fynychu unrhyw un o’r cyrsiau hyfforddi’r hyfforddwr hyn?

Cysylltwch gyda’ch cydlynydd Plant Mewn Gofal lleol.

Stonewall

Stonewall yw’r elusen Cymru gyfan sy’n anelu i gael cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru.

Cynigir hyfforddiant i 1 aelod o staff o bob ysgol yng Ngogledd Cymru.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion ac awdurdodau lleol i greu man lle gall pobl ifanc fod yn rhan o’u cymunedau, a byw, gweithio a chael bywydau iach a phositif, heb wahaniaethu.

Mae arolygwyr Estyn yn edrych yn benodol ar berfformiad grwpiau penodol o ddisgyblion (rhieni sy’n hoyw / y tybir eu bod yn hoyw) yn ogystal ag ystyried i ba raddau mae disgyblion yn teimlo’n rhydd o gam-drin corfforol neu eiriol yn yr ysgol.

Mae adroddiad Estyn, Gweithredu ar Fwlio yn nodi bod bwlio homoffobaidd yn flaenoriaeth allweddol gan arolygwyr yn eu fframwaith arolygu, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag cael eu bwlio.

Mae cyrsiau Hyfforddi’r Hyfforddwyr Stonewall Cymru yn darparu arweinwyr bugeiliol, ABCh a gwrth-fwlio gyda’r holl adnoddau a thechnegau sydd eu hangen i hyfforddi staff eraill i fynd i’r afael a bwlio homoffobaidd a dathlu gwahaniaeth mewn ffordd sy’n briodol i oedran; fydd yr hyfforddiant yma yn eich helpu chi i fodloni gofynion fframwaith arolygu Estyn.

Mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn dod yn rhan o’r rhaglen Hyrwyddwyr Ysgolion.

Yellow Kite 

‘Mae’n Brifo Tu Mewn’

Cefnogi disgyblion sydd wedi dioddef trawma perthynas sylweddol neu sydd wedi colli rhywun agos

Diwrnod 1

Mae’r diwrnod hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer amrywiaeth fawr o weithwyr proffesiynol a rhieni / gofalwyr sy’n awyddus i ddeall sut mae gwneud i blentyn gofidus deimlo’n gartrefol yn y byd addysg. Diben y cwrs ydy ysbrydoli a dangos bod modd i bawb gyfrannu a gwneud gwahaniaeth yn y maes hwn waeth beth fo’u swyddogaeth neu gyfrifoldebau. Bydd y diwrnod hefyd yn annog pobl i wneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol yn yr ysgol gan ddefnyddio fframwaith ymlyniad er mwyn deall ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu.

‘Beth Amdana i?’

Sut allai cefnogaeth ymlyniad ymddangos yn ystod diwrnod ysgol?

Diwrnod 2 – 

Bwriedir y diwrnod hwn ar gyfer staff a rhieni / gofalwyr maeth sydd eisoes wedi mynychu hyfforddiant Diwrnod 1. Mae’r diwrnod hwn yn fwy rhyngweithio na Diwrnod 1 felly fe gyfyngir y niferoedd all fynychu. Bydd ymarferwyr yn cael mwy allan o’r diwrnod os ydynt wedi bod trwy nodiadau Diwrnod 1 ac yn mynychu yn barod i gyfrannu. Mae Diwrnod 2 yn ystyried bod y wybodaeth o’r ymarferion a’r egwyddorion o Ddiwrnod 1. Trwy gydol y diwrnod ystyrir sut fyddai’n bosibl ymestyn ymwybyddiaeth am ymlyniad drwy ymarfer yn yr ysgol.

Diwrnod 2 – cofrestrwch yma

Dyddiad ac Awdurdod Lleoliad Sut i Gofrestru?
Sir Ddinbych a Chonwy
Mae gennych yr opsiwn i fynychu unrhyw leoliad a nodir isod.
Gwynedd ac Ynys Môn
Diwrnod 2 – 27/02/2017
Tŷ Menai, Parc Menai, Bangor

YoungMinds yw’r elusen sy’n targedu gwella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig.

Mae ganddynt hyfforddiant penodol sy’n targedu cefnogi plant bregus mewn ysgolion ac, yn dilyn eich ceisiadau chi am gymorth ym maes iechyd meddwl, rydym yn falch o nodi bod hyfforddiant ar gael trwy gysylltu gyda’ch cydlynydd Plant Mewn Gofal Sirol.

Datgelu (Unearthing) – Hope Mountain

Adnodd yw’r blychau Datgelu a ddatblygwyd yng Ngogledd Cymru yn 2008 i’w defnyddio ar gyfer ymyriad 1:1 â grŵp bychan gyda phobl ifanc. Bellach maent yn cael eu defnyddio mewn nifer o fudiadau cyhoeddus a thrydydd sector yng Nghymru a Lloegr. Maent yn seiliedig ar yr egwyddorion syml canlynol:

  • Lluniwyd y bwlch Datgelu i helpu pob person ifanc i deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u clywed. Mae hyn yn adeiladu hunan-barch.
  • Mae’r blwch Datgelu yn gyflym ac yn naturiol yn creu lle tawel i bobl ifanc feddwl yn greadigol ac yn bositif. Maent yn darganfod eu doethineb eu hunain ac yn gweithio allan drostynt eu hunain ffyrdd newydd o symud ymlaen. Mae hyn yn eu grymus.
  • Mae’r blwch Datgelu yn helpu i adeiladu hunan-ddealltwriaeth ac empathi mewn modd hwyliog a phleserucs. Mae hyn yn creu sylfaen ar gyfer adeiladu sgiliau cymdeithasol a hunan-reoli emosiynau.

Crëwyd a chyhoeddwyd y blychau Datgelu a Siwrne gan Hope Mountain ac maent yn eu gwerthu’n uniongyrchol i fudiadau, gan dorri allan elw’r cyfanwerthwr. Maent yn fudiad dielw ac yn ymfalchïo mewn cyflenwi adnoddau a hyfforddiant ar gyfer yr hyn rydych ei angen. Maent yn cyflwyno hyfforddiant uchel ei barch i staff ar sut i ddefnyddio’r adnoddau fel bod eich pobl ifanc yn cael y budd mwyaf ohonynt. Caiff yr hyfforddiant ei werthfawrogi hefyd fel offeryn datblygu staff

Cysylltwch gyda’r cydlynydd Plant Mewn Gofal lleol i drefnu cwrs hyfforddi.

MAE’R HYFFORDDIANT YMA AR GAEL YN GYMRAEG NEU SAESNEG

Cyniga Rob hyfforddiant ar nifer o faterion sy’n effeithio ar allu plant i ddatblygu’n emosiynol ac academaidd. Gall Rob gynnig hyfforddiant i ysgolion ar y canlynol:

Ymlyniad, Adeiladu’r Wal o Ddatblygiad Emosiynol, Bwlio, Seiberfwlio, Dw i isio bod yn flin, Cyfryngau Cymdeithasol a chadw Proffesiynoldeb, Ysgariad a’i effaith ar ddysgu

Cysylltwch gyda Rob yn uniongyrchol er mwyn trafod eich gofynion hyfforddi.

Cofiwch, medrwch gysylltu â ni os oes gennych gais penodol am gyngor neu hyfforddiant.

GwE – RobJewell@GwEGogledd.Cymru

Wrecsam – Chris.moore@wrexham.gov.uk

Sir y Fflint – gwenan.roberts@flintshire.gov.uk

Sir Ddinbych – Kathryn.packer@denbighshire.gov.uk

Conwy – Eilir.Jones@conwy.gov.uk

Gwynedd – BethanEleriRoberts@gwynedd.gov.uk

Ynys Môn – HeulwenOwen@anglesey.gov.uk

Gweler isod Gynllun Rhanbarthol GwE ar gyfer Codi Cyrhaeddiad PMG mewn Ysgolion.