Canlyniadau Lefel A / UG 2021

10/08/2021

Hoffai y chwe deilydd portffolio addysg sydd yn cynrychioli chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion a’r Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE, longyfarch holl ddysgwyr Blwyddyn 12 a 13 ar eu canlyniadau eleni. Hoffem ddymuno’r gorau i bob person ifanc ar gyfer y dyfodol a chydnabod y gefnogaeth a gawsant gan eu hysgolion a’u teuluoedd.

Yn ystod argyfwng Covid-19, mae GwE wedi gweithio mewn cydweithrediad agos gyda’i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau wedi cael pob cefnogaeth yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.