Canlyniadau TGAU 2021

Hoffai y chwe deilydd portffolio addysg sydd yn cynrychioli chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion a’r Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE, longyfarch pob dysgwr Blwyddyn 11 yn gynnes ar eu cyflawniadau eleni. Mae eleni eto wedi dwyn heriau newydd a dymunwn gydnabod ymdrechion sylweddol a wnaed gan ddysgwyr a’r gefnogaeth a gawsant gan eu hysgolion a’u teuluoedd. Hoffem ddymuno’r gorau i’n holl ddysgwyr yn eu camau nesaf a’u cynghori i siarad â’u hysgolion am yr ystod eang o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael iddynt.

Mae eleni wedi cyflwyno heriau newydd sylweddol i ddysgwyr ac ysgolion ac mae GwE wedi cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau trwy gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl yn ystod y pandemig cyfredol.