Gweminarau

Gweminarau GwE yn ein Canolfan Cefnogaeth 

Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i’r dudalen Gweminarau GwE yn ein Canolfan Cefnogaeth:

https://sites.google.com/hwbcymru.net/gwegweminarau/gweminarau

 

 

Sesiynau Syrjeri Dysgu Cyfunol @ GwE

Rydym yn awyddus i gynnig sesiwn ‘Syrjeri Dewisol’ i Bennaeth a / neu Athrawon ar y modelau dysgu cyfunol a’r enghreifftiau, diweddariad digidol a chynlluniau i gefnogi ysgolion gyda cynlluniau dysgu cyflym.   Bydd y sesiwn yn gyfres o 3 cyflwyniad byr ac yn gyfle i chi ofyn cwestiynau am yr hyn rydych chi wedi’i glywed a’i weld gan YCG GwE sydd wedi bod yn rhan o’r tîm yn eu datblygu.

Sesiwn cyfrwng Cymraeg 16:00 – 17:15 ddydd Mercher a Ddydd Iau 15 a 16 Gorffennaf.

 

Dydd Mercher
16:00
Modelau Dysgu Cyfunol -Cyfnod Allweddol 2 – Carys Jones
 
16:20
Diweddariad digidol – Osian Hughes
 
16:40
Cynlluniau ar gyfer dysgu carlam – Manon Davies

 

Dolen i’r Gweminar wedi’i recordio: https://youtu.be/S4SgpfofBEs
Dydd Iau
16:00
Modelau Dysgu Cyfunol – Cyfnod Sylfaen – Gwawr Thomas
 
16:20
Diweddariad digidol – Osian Hughes
 
16:40
Cynlluniau ar gyfer dysgu carlam – Manon Davies

 

Dolen i’r Gweminar wedi’i recordio: https://youtu.be/2ef2CJRKZNQ 
Dolen i’r fersiwn Saesneg: https://youtu.be/flvrg_0pX2U

 

 

Cyflwyniad i Hwb i Ysgolion Cynradd

Yn y gweminar hwn byddwn yn rhoi trosolwg o’r holl wasanaethau sydd ar gael drwy lwyfan dysgu digidol Hwb. Bydd hwn yn gyfle i ymarferwyr ystyried pa wasanaethau sy’n mynd i’w helpu i ddatblygu a hwyluso’r addysgu a dysgu yn ystod y cyfnod hwn o ddysgu o bell ac ar ôl iddynt ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer pob athro ac athrawes, arweinwyr canol ac uwch arweinwyr o’r sector cynradd. Byddwn yn rhoi trosolwg byr o’r gwasanaethau canlynol:

– Flipgrid

– Google for Education

– Screencastify

– Office 365

– J2E

– Adobe Spark

Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal drwy MS Teams a bydd cyfle i chi yrru cwestiynau i’r tîm yn ystod y cyflwyniadau.  Rydym yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho y fersiwn llawn o MS Teams cyn ymuno drwy ddilyn y camau canlynol – https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/microsoft-teams/download-app . Gallwch hefyd ymuno drwy app Teams ar ddyfais symudol. Ar ôl lawrlwytho Teams bydd rhaid i chi fewngofnodi drwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb. Os fyddwch yn mewngofnodi yn defnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol ni fyddwch yn gallu ymuno. Ar ôl i chi wneud hyn cliciwch ar y linc isod i ymuno. Gweminar yw hwn felly ni fydd eich camera a’ch meicroffon yn cael ei ddefnyddio.

Cliciwch yma i ail-weld y sesiwn Cymraeg.

Cliciwch yma i ail-weld y sesiwn Saesneg.

 

Gweminar Uwchradd – Cyflwyniad i Hwb  

Dyma gyflwyniad i holl wasanaethau Hwb sydd ar gael i bob athro a disgybl drwy’r wlad. Mae adnodd i gyd fynd â’r sesiwn er mwyn eich cyfeirio at adnoddau dysgu proffesiynol pellach pe bai chi’n dymuno dysgu mwy am unrhyw agwedd a drafodwyd yn ystod y gweminar – https://spark.adobe.com/page/MAoDh3m4uv4Yb/

 

Cliciwch yma i ail-weld y sesiwn Cymraeg.

Cliciwch yma i ail-weld y sesiwn Saesneg.