Llythyr i Ysgolion – 09/04/2020

09/04/2020

Annwyl Bennaeth,

Gobeithio eich bod chi, eich teulu a chymuned yr ysgol yn cadw cystal â phosibl dan yr amgylchiadau hynod anodd ac unigryw hyn.

Ysgrifennais atoch yn ddiweddar yn egluro sut y byddai GwE yn cynnal ysgolion yn y cyfnod hynod anodd hwn. Mae’r cymorth hwn ar gael yn barhaus os oes ei angen arnoch.

Fel y nodwyd yn fy llythyr blaenorol, rydym wedi bod yn paratoi strategaeth dysgu o bell a fydd yn helpu i arwain y dysgu rhwng ysgolion, rhieni a’u plant yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Prif flaenoriaeth unrhyw strategaeth dysgu o bell yw llesiant dysgwyr, rhieni a staff mewn ysgolion. Y prif flaenoriaeth i bawb yw sicrhau bod cynifer o bobl ag y bo modd yn aros yn iach a chydag agwedd gadarnhaol at fywyd, ac yn barod i weithio neu i ddysgu pan fydd y cyfnod cythryblus hwn ar ben.

Mae gwybod y bydd ysgolion ar gau am gyfnod estynedig yn gyfle i gynllunio profiad gwahanol i ddysgwyr, ac i’r cynllunio hwn fod yn ystyriol o gyfnod estynedig o’r ysgol. Yn ystod y cyfnod hwn, nid yw’n rhesymol disgwyl i brofiadau dysgu o bell fod yn adlewyrchiad o’r dysgu yn yr ysgol.

Dylai dysgu o bell fod yn brofiad pleserus i bawb. Mae cyfle yn awr i ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn profi gwahanol fath o ddysgu, wedi’i hwyluso gan eu hathrawon a’i gefnogi gan eu rhieni.

Cam nesaf ein gwaith fydd adnabod a chefnogi ysgolion i sefydlu a darparu model effeithiol ar gyfer dysgu o bell. Mae dogfen ganllaw dysgu o bell yn rhan o’r strategaeth. Mae’r ddogfen hon yn cynnig syniadau i ysgolion wrth iddynt addasu i ddull newydd o weithio. Fel rhan o’r canllawiau, bydd ystod o fodelau dysgu o bell yn fodd i ysgolion benderfynu ar ba fodel sydd orau i’w cyd-destun lleol. Bydd y modelau hyn yn seiliedig ar y profiadau a ganlyn ar gyfer dysgwyr:

  • mwynhad, gyda dysgwyr yn cael eu hannog i roi cynnig ar y gweithgareddau creadigol a gynigir, a’u mwynhau;
  • cefnogi datblygiad sgiliau [llythrennedd/rhifedd yw’r prif ffocws];
  • cefnogi dysgu annibynnol a gwytnwch dysgwyr;
  • datblygu sgiliau creadigol, ymchwiliol a chydweithredol;
  • cefnogi llesiant a chadw dysgwyr yn iach, gyda chyngor ar fwyta’n iach a ffitrwydd corfforol;
  • cefnogi rhyngweithio teuluol a grymuso rhieni; a, lle bo’n bosib
  • cefnogi rhyngweithio a chynnal cyfeillgarwch rhwng cyfoedion.

Rydym wrthi’n ymchwilio i wahanol fodelau y gallai ysgolion eu defnyddio, ac mae amrywiol aelodau o’r tîm eisoes wedi gwneud llawer o waith ar hyn. Mae aelodau’r tîm hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda rhanbarthau eraill ac Estyn. Bydd angen ystyried modelau sy’n addas i wahanol sectorau, camau, ardaloedd ac anghenion unigol. Cyn gynted ag y bydd enghreifftiau o
fodelau dysgu o bell wedi’u cwblhau byddant yn cael eu coladu a’u rhannu â chi fel llyfrgell o fodelau posib i chi eu defnyddio.

Bydd y modelau hyn yn sail i’n trafodaethau efo chi wrth i chi ystyried a datblygu eich strategaethau dysgu o bell a’ch sail resymegol eich hunain. Byddwn yn trafod â chi sut orau i’ch cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn a gynigir, yr hyn ddylen ni fod yn ei gynnig i ddysgwyr o wahanol oedran a’r math o gymorth sydd ei angen ar gyfer eich staff, rhieni a gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn eich ysgol chi.

Os bydd arnoch angen trafod unrhyw beth dros benwythnos y Pasg mae croeso i chi gysylltu, naill ai drwy eich YCG, Arweinydd Craidd neu Marc B Hughes / Elfyn V Jones. Os ddim, bydd eich YCG yn cysylltu â chi wythnos nesaf.

Dymuniadau gorau, cadwch yn ddiogel a gobeithio y cewch chi seibiant dros y penwythnos.

Arwyn a phawb yn GwE