Bu’r gynhadledd ryngwladol yn ddiweddar, sef ‘Llygaid Pawb ar Gymru’ yn llwyddiant ysgubol. Yn ystod y dydd, bu dros 350 ymuno â’r gyfres o weithdai byw, a gwyliwyd llawer ohonynt gan grwpiau o ddysgwyr.
Roedd negeseuon a themâu pendant yn gwau drwy’r diwrnod o safbwynt y Cwricwlwm i Gymru, yn arbennig felly y pedwar diben, Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, Arweinyddiaeth a Llais y Dysgwr.
Canmolodd ein siaradwyr gwadd a rhyngwladol, fel Nick Butter a Jazz Ampaw-Farr, y gweithgarwch sydd yn y byd addysg yng Nghymru ar hyn o bryd. Bu Miguel Gonzalez o Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, longyfarch GwE ac ysgolion Gogledd Cymru am arwain y ffordd ar Her Newid Hinsawdd 100 Ysgol y Cenhedloedd Unedig.
Er mwyn gweld y datganiad llawn, cliciwch yma