Llythyr i Benaethiaid – 27/03/2020

27/03/2020

Annwyl Bennaeth,

Gobeithio eich bod yn cadw cystal â phosibl dan yr amgylchiadau hynod anodd ac unigryw hyn.

Ysgrifennais atoch yr wythnos ddiwethaf yn egluro sut y byddai GwE yn cynnal ysgolion yn y cyfnod anodd cychwynnol hwn.

Dyma’r gynhaliaeth a nodwyd:

  • Cefnogi ysgolion i aros ar agor drwy leoli staff GwE mewn ysgolion, yn ôl y gofyn;
  • Lleoli staff GwE mewn awdurdodau lleol i gefnogi eu cynhwysedd;
  • Creu Google Classroom i gasglu adnoddau i gefnogi dysgwyr ac athrawon ar draws yr amryfal gyfnodau allweddol a’r pynciau;
  • Galwad ffôn ddyddiol i ysgolion i gefnogi lles penaethiaid, a thrafod unrhyw ymholiadau sydd ganddynt.

Mae’r cymorth ar gael yn barhaus os oes ei angen arnoch.

Rwyf yn ymwybodol bod gennych sefyllfaoedd brys a dybryd iawn i roi trefn arnynt yr wythnos hon. Er hynny, hoffwn dynnu eich sylw at y gefnogaeth a fydd ar gael i ysgolion unwaith y bydd y sefyllfa ddyrys hon wedi setlo rhywfaint.

Rydym wedi bod, ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Estyn, Cymwysterau Cymru a CBAC ar amryw byd o faterion.

Dyma rai sydd angen rhoi sylw ar frys iddynt:

  • Dyfarnu graddau i ddisgyblion blwyddyn 11 a blwyddyn 13;
  • Sut yw’r ffordd orau i ni gefnogi disgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 12 i barhau efo’u hastudiaethau; a
  • Beth fydd y gofynion o ran cymwysterau iddynt os bydd y sefyllfa bresennol yn parhau dros gyfnod estynedig?

Mae’r trafodaethau hyn yn parhau.

Gyda’r rhanbarthau eraill, rydym yn paratoi strategaeth dysgu o bell a fydd yn eich helpu chi i arwain y dysgu rhwng ysgolion, rhieni a’u plant. Mae’n rhaid i ni gael disgwyliadau realistig o ran yr hyn y disgwyliwn i ddysgwyr o wahanol oedran ei wneud a’i gyflawni, mewn sefyllfa anodd iawn, nid yn unig i staff ysgolion, ond i rieni hefyd. Mae angen i ni gofio am degwch cyfleoedd i ddysgwyr, a’r her sylweddol i sicrhau bod y plant mwyaf bregus yn cael eu cynnal yn effeithiol er mwyn iddynt ddysgu a bod yn ddiogel. Bydd hyn yn gryn her.

Er mwyn cefnogi’r strategaeth, byddwn yn darparu arweiniad ar y disgwyliadau ar athrawon, dysgwyr a rhieni. Er mwyn ategu’r arweiniad, tynnir sylw pawb at y feddalwedd sydd ar gael
yn rhwydd i gefnogi dysgwyr. Ochr yn ochr â’r adnoddau hyn, bydd tiwtorialau i ddangos i staff a rhieni sut orau i’w defnyddio. Bydd y rhain ar gael yn y dyddiau nesaf drwy ddilyn y cyswllt
yma: https://hwb.gov.wales/dysgu-o-bell/

Pan fydd yr amser yn iawn, byddwn yn trafod â chi sut orau i’ch cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn a gynigir, a’r hyn ddylen ni fod yn ei gynnig i ddysgwyr o wahanol oedran, a’r math o gymorth sydd ei angen ar gyfer eich staff, rhieni a gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn eich ysgol chi.

Er mwyn osgoi cymaint o lwyth gwaith diangen â phosibl i chi, mae’n debyg y bydd rhaid rhannu adnoddau a dulliau gweithredu. Gellid datblygu adnoddau newydd ar y cyd, pe byddai rhaid. Mae’n debyg bod llawer ohonoch eisoes wedi rhoi cynlluniau ar waith i hyn ddigwydd.

Gobeithio eich bod yn deall ein bod yn ymwybodol iawn o’r pwysau sydd arnoch ar hyn o bryd,ond rydym am i chi wybod ein bod eisoes wrthi’n cynllunio cymorth ar eich cyfer ar gyfer y camau nesaf yn y daith ddyrys hon. Byddwn yn rhannu’r manylion gyda chi unwaith y byddwch chi’n teimlo bod yr amser yn iawn i symud ymlaen.

Cofion gorau a chadwch yn ddiogel.


Arwyn a phawb yn GwE