Rhaglen Genedlaethol i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Mewn Gofal

Rhaglen yn rhedeg dros gyfnod o ddwy flynedd addysgol

Mae’r Rhaglen Genedlaethol i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Mewn Gofal ar gael i bob pennaeth newydd ei benodi a phennaeth mewn gofal yng Nghymru. Cyflwynir y rhaglen gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid ac fe’i hardystiwyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.  

Mae’r rhaglen yn darparu hawl cyffredin, gyda rhywfaint o hyblygrwydd, i fodloni anghenion a chyd-destunau penodol cydweithwyr mewn lleoliadau ac ardaloedd daearyddol gwahanol.  Mae wedi ei chynllunio i sicrhau bod gennych yr un mynediad at yr un dysgu proffesiynol safon uchel â’ch cydweithwyr, ble bynnag rydych yn gweithio fel Pennaeth newydd yng Nghymru.

 

Prif agweddau’r rhaglen: 

  • Mae wedi ei chynllunio yn unol â’r Model Dysgu Proffesiynol Rhanbarthol
  • Mae’r cynnwys yn seiliedig ar y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, Datblygu Ysgolion yng Nghymru fel Sefydliadau sy’n Dysgu ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl
  • Mae hyd y rhaglen a dilyniant y gweithgareddau dysgu yn gyson drwy Gymru
  • Mae disgwyliadau cyffredin am gynnydd cyfranogwyr a sut bydd hyn yn effeithio ar eu harfer arweinyddol

Er mai rhaglen genedlaethol yw hon, fe’i cydlynir trwy’r rhanbarthau ac mae’r prif fanylion cyswllt isod ar gyfer cyflwyno’r rhaglen yn eich ardal:

RHANBARTH CYDLYNYDD CYSWLLT
CSC Sue Prosser
Alison Tovey
susan.prosser@cscjes.org.uk
alison.tovey@cscjes.org.uk
EAS Adelaide Dunn adelaide.dunn@sewaleseas.org.uk
Partneriaeth Rob Phillips Robert.Phillips@partneriaeth.cymru
GwE Stella Gruffydd [Cydlynydd y Rhaglen a Chyswllt Hyfforddwyr Arweinyddiaeth]
Stuart Pritchard [Cydlynydd ar y Cyd]
Ann Grenet [Rheolwr Prosesau]
Ceri Kenrick [Swyddog Cefnogi Busnes]
RhDPN@gwegogledd.cymru
MWEP Sarah Perdue
Dafydd Davies
Sarah.Perdue@powys.gov.uk
Dafydd.IoloDavies@ceredigion.gov.uk

CYNLULLEIDFA

Mae’r Rhaglen Genedlaethol i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Mewn Gofal​ wedi cael ei chynllunio i unigolion sydd newydd eu penodi i’r swydd.

 

PWRPAS

Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi Penaethiaid Newydd i ennill yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i weithio’n effeithiol ar lefel leol ynghyd â darparu datblygiad unigol sy’n canolbwyntio ar yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i fod yn Bennaeth llwyddiannus.

 

DULL CYFLWYNO

Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal dros gyfnod o ddwy flynedd ac mae angen ymrwymo i gyfwerth ag wyth diwrnod yn ystod y cyfnod hwn. Mae achredu ffurfiol ar gael, ac mae cyfranogwyr yn gallu dewis yr opsiwn hwnnw.

Mae holl weithgareddau’r rhaglen hon yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Mae cofrestru trwy broses genedlaethol sydd angen cymeradwyaeth gan Gadeirydd Llywodraethwyr yr unigolyn.

Mae’r rhaglen wedi ei strwythuro’n dri cham:

Cam 1: Gwaith sy’n cael ei gwblhau cyn y rhaglen, sy’n cynnwys gweithgarwch trosglwyddo ffurfiol a ‘hunan ddadansoddiad’ unigol yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth Ffurfiol.

Cam 2: Blwyddyn gyntaf o brifathrawiaeth. Rhaglen ddatblygu cenedlaethol a rhanbarthol  pum diwrnod sy’n canolbwyntio ar ennill yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol  er mwyn datblygu’n bennaeth llwyddiannus. Cefnogir hyn gan gydweithio mewn rhwydwaith cymheiriaid  lleol dan arweiniad Hyfforddwr Arweinyddiaeth fydd yn bennaeth  profiadol.

Cam 3: Ail flwyddyn o brifathrawiaeth.  Parhad cefnogaeth  y rhwydwaith cymheiriaid dan arweiniad yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth  Cynhelir diwrnod yn nhymor olaf y rhaglen  lle bydd cyfranogwyr yn trafod, rhannu  a myfyrio ar eu profiadau a’u llwyddiannau fel pennaeth newydd.

 

COFRESTRU

Disgwylir y bydd y Rhaglen yn cael ei chwblhau gan bob Pennaeth Newydd a Mewn Gofal yng Nghymru, gyda mynediad at y Rhaglen o’ch mis Medi cyntaf mewn swydd.  [Mae Penaethiaid Mewn Gofal yn gymwys os ydynt yn disgwyl bod yn y swydd am o leiaf ddau dymor].

Bydd GwE yn derbyn enwau’r rhai sy’n gymwys i ddilyn y Rhaglen gan yr Awdurdod Lleol ac yn cysylltu gyda nhw yn uniongyrchol.