Rhaglen Dysgu Carlam

Llythyr i Benaethiaid: 07/09/2020

Manteisiwn ar y cyfle hwn, yn fuan yn y tymor newydd, i roi diweddariad i chi ar y cymorth y bydd GwE yn ei ddarparu i chi, a’ch tîm, o safbwynt ‘cyflymu’r dysgu’ i ystod oedran y disgyblion sydd yn eich ysgol. Bydd gweithredu Rhaglen Dysgu Carlam, yn y tymor byr, yn greiddiol i’n strategaeth. Ond, wrth symud ymlaen, bydd y dull gweithredu hefyd yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer datblygu a chorffori dysgu ac addysgu effeithiol ymhellach.

Rhannwyd manylion y rhaglen genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar 21 Awst, 2020 (https://llyw.cymru/recriwtio-adfer-chodi-safonau-y-rhaglen-dysgu-carlam). Dyrannwyd £29 miliwn yn ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion i greu cynhwysedd newydd i ‘Recriwtio, adfer a chodi safonau’ [cewch wybod gan eich awdurdod lleol pa swm a ddyrannwyd i’ch ysgol]. Mae ein strategaeth yn plethu â’r disgwyliadau cenedlaethol.

Bydd ‘pecyn cymorth’ GwE hefyd yn golygu y bydd deunyddiau ac adnoddau dysgu wrth law i gefnogi’r Rhaglen Dysgu Carlam yn eich ysgol, gyda phwyslais ar wella cysondeb ac ansawdd yr addysgu a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm a’r ystod oedran.

Rhennir rhagor o fanylion â chi ac arweinwyr yr ysgol dros yr wythnosau nesaf, yn yr uwchradd drwy eich fforymau penaethiaid a’n rhwydweithiau ar gyfer Arweinwyr Dysgu ac Addysgu a’r Pynciau Craidd. Yn y cynradd, byddwn yn defnyddio y fforymau arferol i gydweithio hefo chi.

Dros y misoedd nesaf, rydym yn awyddus i gydweithio ag ysgolion ar draws y rhanbarth i ddatblygu ymhellach y dull gweithredu a’r gronfa adnoddau.

Bydd ein dull gweithredu, ynghyd â’r adnoddau ategol, yn cryfhau ymhellach eich ymdrechion i:

  • ddatblygu gwell cysondeb ac ansawdd yn y cynnig ‘cyffredinol’ sydd ar gael i’r ystod oedran
  • dargedu grwpiau o ddysgwyr yn effeithiol yn y tymor byr
  • ddatblygu yn effeithiol sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm
  • ddarparu modelau dysgu cyfunol effeithiol
  • gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Rydym yn cydnabod y bydd cryn alw ar y cyllid a fydd ar gael i’ch ysgol chi trwy’r rhaglen genedlaethol. Drwy ddefnyddio ein dull gweithredu a’n hadnoddau rhanbarthol yn effeithiol, credwn y bydd y cyllid ychwanegol yn cael yr effaith orau bosibl.

Rydym yn ymwybodol pa mor eithriadol o anodd, prysur a heriol yw’r cyfnod hwn i’ch ysgol a’ch arweinwyr, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eich cymorth a’ch cydweithrediad parhaus.

Byddwn yn rhannu dyddiadau’r sesiynau briffio â chi maes o law.

Mae croeso i chi gysylltu â’ch Arweinydd Craidd cyn y sesiynau briffio i drafod ymhellach unrhyw agwedd ar yr uchod.