Datganiad Dysgu Proffesiynol Traws-Ranbarthol

DISGWYLIADAU A RENNIR

Yn dilyn cyhoeddi’r disgwyliadau a rennir yr wythnos hon, roedd y pedwar consortia rhanbarthol, sydd wedi gweithio mewn partneriaeth i gyd-lunio’r ddogfen hon, yn teimlo ei bod yn bwysig ‘nawr cydnabod ein rôl o gynorthwyo ysgolion i baratoi ar gyfer gwireddu Cwricwlwm i Gymru, a hynny trwy amlinellu’r cynnig cyffredin o ddysgu proffesiynol a fydd ar gael ledled Cymru.

Cynlluniwyd y rhaglen dysgu proffesiynol drawsranbarthol mewn partneriaeth gan y pedwar rhanbarth, ac mae’n cael ei chyflwyno ar ffurf cynnig cyffredin o gymorth, er y gall y mecanweithiau cyflenwi lleol amrywio. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu’n uniongyrchol y dull a’r athroniaeth a amlinellir yn y ddogfen ‘disgwyliadau a rennir’.

Gan ystyried ein cyd-destun cyfredol o fod yng nghanol y pandemig COVID-19, rydym wedi cynllunio’r deunyddiau dysgu proffesiynol i fod ar gael mewn ystod o fformatau ac i adeiladu ar ein dysgu o’r cyfnod o aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig. Bydd yna gyfleoedd ar gael ar gyfer sesiynau ‘byw’, ond bydd pob un o’r sesiynau’n cael eu recordio fel y gall ysgolion ymgysylltu â nhw pan fyddant yn gallu. Bydd yr holl ddeunyddiau ac adnoddau hefyd ar gael mewn pecynnau y gall staff ysgolion eu cyrchu a’u defnyddio’n hawdd.

Yn y tabl isod amlygir y manylion lefel uchel a dyddiadau rhyddhau’r deunyddiau hyn a fydd yn darparu cymorth i Benaethiaid ac Uwch-arweinwyr, Arweinwyr Canol ac athrawon.

Y RHAGLEN AR GYFER PENAETHIAID AC UWCH-ARWEINWYR [TYMOR YR HYDREF YN UNIG]

 

THEMA PRYD? SUT?
Arwain Newid O fis Hydref 2020 Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael ar ffurf amrywiaeth o:

  1. Profiadau dysgu proffesiynol byw.
  2. Recordiadau ar alw.
  3. Set o adnoddau wedi’u pecynnu i gefnogi llwybr lledaenu hyfforddi’r hyfforddwr.
  4. Adnoddau i gefnogi hunanastudio.
Sefydlu gweledigaeth a rennir O fis Tachwedd 2020
Creu amser a lle ar gyfer dysgu proffesiynol O fis Tachwedd 2020
Arwain Addysgeg O fis Tachwedd 2020
Cynllunio a Datblygu’r Cwricwlwm O fis Tachwedd 2020

 

 

ARWEINWYR CANOL [TYMOR YR HYDREF YN UNIG]

 

THEMA PRYD? SUT?
Model y Cwricwlwm i Gymru? Beth sy’n wahanol? O fis Tachwedd 2020 Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael ar ffurf amrywiaeth o:

  1. Profiadau dysgu proffesiynol byw
  2. Recordiadau ar alw
  3. Set o adnoddau wedi’u pecynnu i gefnogi llwybr lledaenu hyfforddi’r hyfforddwr
  4. Adnoddau i gefnogi hunanastudio
Myfyrio ar addysgeg – ar gyfer arfer cyfredol ac ar gyfer y cwricwlwm newydd O fis Tachwedd 2020
Taith trwy’r Meysydd Dysgu a Phrofiad O fis Tachwedd 2020
Gweledigaeth ar gyfer y Meysydd Dysgu a Phrofiad? (gan adeiladu ar y weledigaeth ysgol gyfan) O fis Rhagfyr 2020