Hyfforddiant Ymsefydlu i Athrawon Newydd Gymhwyso 3C [Welsh]

Addas ar gyfer: Holl ANGon mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig yn rhanbarth GwE ynghyd ag ANGon Llanw Tymor Byr yn y rhanbarth.

  • Cynnig strategaethau ac adnoddau yn ymwneud â dysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd cyflwyniadau gan ysgolion rhanbarthol wedi eu hadnabod am eu hymarfer effeithiol.

Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cynllunio profiadau dysgu gwerth chweil sy’n arwain at addysg well a chodi safonau
  • Defnydd effeithiol o ddata a thystiolaeth ymchwil
  • Cydweithio gydag eraill
  • Adolygu a myfyrio ar ymarfer