Datblygu creadigrwydd drwy addysg awyr agored [Cymorthyddion Dysgu – Saesneg]

Addas ar gyfer:  Cymorthyddion y Cyfnod Sylfaen (gweithdy hanner diwrnod)

  • Gweithdy hanner diwrnod i gymorthyddion y Cyfnod Sylfaen i rannu syniadau am ffyrdd o ddatblygu sgiliau creadigol a sgiliau allweddol disgyblion o fewn yr ardal allanol.

Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Arweiniad a syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau creadigol disgyblion ar draws yr holl feysydd dysgu o fewn yr awyr agored.
  • Annog disgyblion i ddefnyddio eu huwch sgiliau meddwl gan ddatblygu’n ddysgwyr creadigol, annibynnol a beirniadol.
  • Hyrwyddo lles a datblygiad corfforol disgyblion drwy weithgareddau awyr agored.
  • Deall rôl yr oedolyn wrth hwyluso a chefnogi dysgu effeithiol yn yr awyr agored.
  • Cymorthyddion yn cydweithio ar dasg grŵp/unigol i rannu gyda phawb sy’n bresennol.