Datblygu creadigrwydd drwy addysg awyr agored [Cymorthyddion Dysgu – Cymraeg]

Addas ar gyfer:  Cynorthwywyr Addysgu Cyfnod Sylfaen

Cynnig gweithdy hanner diwrnod i ymarferwyr Cyfnod Sylfaen rannu syniadau am sut i ddatblygu sgiliau creadigol a sgiliau allweddol disgyblion mewn addysg awyr agored ac yn yr awyr agored.

Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Arweiniad a syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau creadigol yn ymwneud â holl feysydd dysgu yn yr awyr agored.
  • Annog disgyblion i ddefnyddio’r uwch sgiliau meddwl i fod yn feddylwyr creadigol a beirniadol drwy addysg awyr agored.
  • Hyrwyddo lles a datblygiad corfforol drwy weithgareddau awyr agored
  • Deall swyddogaeth yr oedolyn gyda hwyluso dysgu effeithiol a mynd ati i wneud arsylwadau pwrpasol yn yr ysgol ac yn yr awyr agored
  • Ymarferwyr yn cydweithio ar dasg grŵp/unigol i rannu gyda phawb sy’n bresennol