Datblygu creadigrwydd drwy addysg awyr agored [Athrawon – Saesneg]

Addas ar gyfer: Athrawon Cyfnod Sylfaen

  • Gweithdy hanner diwrnod i athrawon y Cyfnod Sylfaen i rannu syniadau am ffyrdd o ddatblygu sgiliau creadigol a sgiliau allweddol disgyblion o fewn yr ardal allanol.

Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Arweiniad a syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau creadigol disgyblion ar draws yr holl feysydd dysgu yn yr awyr agored. Annog disgyblion i ddefnyddio eu huwch sgiliau meddwl i ddatblygu’n ddysgwyr creadigol, annibynnol a beirniadol.
  • Hyrwyddo lles a datblygiad corfforol disgyblion drwy weithgareddau awyr agored.
  • Deall rôl yr oedolyn wrth hwyluso a chefnogi dysgu effeithiol yn yr awyr agored.
  • Athrawon yn cydweithio ar dasg grŵp/unigol i rannu gyda phawb sy’n bresennoli rannu gyda phawb sy’n bresennol.