Hyfforddiant Cymell i Fentoriaid Sefydlu ANG [MS]

CYFLE YM MAES CYMELL I FENTORIAID SEFYDLU ANG [MS]

Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i fentoriaid sefydlu gymryd rhan mewn hyfforddiant cymell i’w cynorthwyo gyda’u rôl o gefnogi athrawon newydd gymhwyso.

Gwahoddir mentoriaid sefydlu profiadol gyda chyfrifoldebau arweinyddiaeth ysgol i ymgeisio am le wedi ei gyllido ar y Rhaglen Genedlaethol Cymell ar gyfer Mentoriaid Sefydlu (MS).  Mae hwn yn rhan o Gam 2 o gyflwyniad y Rhaglen Genedlaethol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

  • Mae hon yn Rhaglen un ai 3 diwrnod llawn, 6 hanner diwrnod neu 10 x sesiwn 1.5 awr, a redir gan hwylusydd cymell a benodwyd gan Lywodraeth Cymru
  • Byddwch mewn carfan gyda MS / GA eraill o Gymru gyfan, gyda chyfle i gael eich cymell a’ch goruchwylio gan gymhellwyr oddi mewn i’r sefydliad hyfforddi
  • Cewch gyfle i ymgymryd â’r ILM Lefel 3 achrededig mewn cymell a mentora
  • Cewch gyfleoedd i ymarfer eich sgiliau cymell
  • Fe’ch gwahoddir i gyd-adeiladu rhaglen a gyflwynir fesul cam, gan ddod yn hwylusydd eich hun ar grwpiau o MS yn eich rhanbarth

 

Bydd y Rhaglen Genedlaethol Cymell ar gyfer Mentoriaid Sefydlu yn rhedeg drwy dymhorau’r hydref a’r gwanwyn 2021-22.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Rhaglen.

I wneud cais am le ar y Rhaglen, cwblhewch y ffurflen hon.