Rhaglen Datblygu Penaethiaid Profiadol
Rhaglen yn rhedeg dros gyfnod o ddwy flynedd

Mae’r rhaglen hon yn gyfle dysgu proffesiynol newydd i benaethiaid profiadol ac wedi cael ei chreu i alluogi penaethiaid i fyfyrio ar eu perfformiad presennol a phennu camau angenrheidiol er mwyn bod yn bennaeth mwy effeithiol fyth.
Bydd y rhaglen yn darparu heriau a chefnogaeth bwrpasol i bob cyfranogwr; amser i drafod syniadau, theorïau ac erfynau arweinyddiaeth; a’r cyfle i elwa gan, a helpu eraill i gyflawni’r rôl yn llwyddiannus.
Rhaglen genedlaethol yw hon, sydd wedi ei chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, sy’n cael ei chydlynu gan y consortia rhanbarthol mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol a phartneriaid cyflwyno. Mae cyfle i gael achrediad mewn partneriaeth â Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant (Yr Athrofa) a Phrifysgol Bangor i’r rhai sy’n dymuno dilyn y llwybr hwnnw.
Rhestrir isod y cysylltiadau allweddol ar gyfer y rhaglen yn eich ardal chi:
RHANBARTH | CYDLYNYDD | CYSWLLT |
CSC |
Jendy Hillier |
|
GCA |
Peter Jenkins |
peter.jenkins@sewaleseas.org.uk |
ERW |
Tom Fanning |
Tom.fanning@erw.org.uk |
GwE |
Dave Edwards |
DavidWilliamEdwards@gwegogledd.cymru |
CYNULLEIDFA
Mae’r rhaglen hon ar gyfer penaethiaid profiadol sydd yn awyddus i ddatblygu ymhellach eu hymarfer presennol.
PWRPAS
Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth effeithiol iawn trwy hunanarfarnu a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach.
Bydd cyfranogwyr yn:
- Myfyrio ar eu dull arweinyddiaeth eu hunain a sut mae eu harweinyddiaeth yn effeithio ar eraill
- Myfyrio ar effaith ystod o ddulliau arweinyddiaeth
- Deall theori newid a myfyrio ar sut mae hynny’n effeithio ar eu harweinyddiaeth ar y daith ddiwygio drawsffurfiannol
- Cydweithio ag eraill i arwain eu hysgolion yn effeithiol a chael effaith gadarnhaol ar arweinyddiaeth ar draws Cymru
- Gwreiddio diwylliant ac ymarfer arloesi priodol ar draws a thu hwnt i’w hysgolion
DULL CYFLWYNO
Mae’r rhaglen wedi cael ei strwythuro’n bedwar cam dros dwy flynedd:
Cam 1: Proses Ymgeisio Genedlaethol – Medi 2019
Cam 2: Cwblhau adolygiad arweinyddiaeth 360° ac adborth – Hydref 2019
Cam 3: Rhaglen Graidd. Bydd yn cynnwys 4 diwrnod datblygu dros 2 gyfnod preswyl sy’n canolbwyntio ar adolygiad arweinyddiaeth a rheoli newid fel rhan o’r daith ddiwygio drawsffurfiol – Tachwedd 2019 tan Mai 2020.
Cam 4: Cyfranogiad gweithredol trwy Gymunedau Ymarfer mewn o leiaf ddau fodiwl ychwanegol – Mehefin 2020 tan Fehefin 2021.
- Bydd sesiynau ffurfiol yn defnyddio lleoliadau yng nghanolbarth Cymru gyda charfannau’n cwmpasu cyfranogwyr o’r pedwar rhanbarth.
- Bydd modiwlau pwrpasol yn cael eu trefnu mewn ymateb i angen a galw a byddant yn seiliedig ar ddull ‘dysgu cymysg’.
- Mae’r rhaglen yn ceisio uchafu cyfleoedd e-ddysgu a thechnoleg, gyda’r holl ddeunydd dysgu, ymchwil a chyfarwyddyd ar gael yn ddigidol. Dyma fydd prif ddull casglu a chyfnewid gwybodaeth a dysgu hefyd.
- Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob cyfranogwr a bydd angen cydweithio fel rhan o Gymuned Ymarfer (sef grŵp o benaethiaid profiadol sydd â’r un pwrpas).
- Bydd holl weithgareddau’r rhaglen yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
- Bydd y consortia rhanbarthol a’u partneriaid yn cydlynu’r rhaglen, yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Addysg Uwch ac Eliesha Training.
CAIS
Disgwylir y bydd galw mawr am leoedd ar y rhaglen hon a byddant yn cael eu dyrannu ar ôl ystyried ansawdd y cais a chapasiti’r unigolyn a’u hysgolion i ddyrannu’r amser a’r adnoddau priodol i’r rhaglen.
Dylech gwblhau a chyflwyno ffurflenni cais erbyn 12 Tachwedd 2019 [dyddiad cau estynedig].
Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Mae’r ffurflen gais ar gael yma.
