Cefnogi Plant Mewn Gofal drwy’r GDD

Canllawiau Cenedlaethol a Rhanbarthol ar weithredu’r GDD [Grant Datblygu Disgyblion] i sefydliadau addysgol yng ngogledd Cymru:

SAIL RESYMEGOL:

Nod yr adran hom yw rhoi trosolwg o’r GDD rhanbarthol mewn perthynas â Phlant mewn Gofal [PMG] a phlant a arferai dderbyn gofal. Pwrpas y cyllid ychwanegol yw cael effaith hirdymor ar deilliannau plant sy’n derbyn gofal, neu a arferai dderbyn gofal. GwE, sef Consortia Addysg Gogledd Cymru, a fydd yn gyfrifol am waith gweinyddu a chydlynu cyffredinol y grant.

Bydd yr adran hon yn rhoi sylw i’r stategaeth ranbarthol, y dull gweithredu, y cymorth gan GwE a’r berthnasedd a’r effaith ar ysgolion a lleoliadau. Bydd hefyd yn cyfeirio ysgolion, lleoliadau ac AauLl  at bolisïau strategol allweddol a chanllawiau ac arfer lwyddiannus sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gyda’r nod o ddarparu cysondeb wrth weithredu’r GDD a’r effaith ar ddeilliannau dysgwyr.

Y CYD-DESTUN CENEDLAETHOL:

Un o amcanion allweddol Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Cynllun Gweithredu 2017–21 yw “codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.” Mae GwE yn gyfrifol am gydlynu’r GDD a chyflwyno cynllun cymorth yn flynyddol i Lywodraeth Cymru, sy’n adlewyrchu gofynion a thargedau Llywodraeth Cymru, a hefyd anghenion rhanbarthol a lleol plant mewn gofal.

Canllawiau GDD Llywodraeth Cymru:
Mae lefelau dyraniad wedi’u sicrhau am y ddwy flynedd ariannol nesaf ar gyfer Plant mewn Gofal (PMG) a phlant a arferai dderbyn gofal sydd wedi’u mabwysiadu o ofal, neu rai 3-15 oed sy’n destun gwarchodaeth arbennig neu orchymyn preswyliad, a defnyddir cyfrifiad Plant mewn Angen i ddyrannu cyllid.
“Gall y consortia rhanbarthol ddatblygu a gweithredu ymyraethau gaiff effaith fanteisiol ar bob disgybl, ond bydd disgwyl iddynt fod o fwy o fudd i blant mewn gofal, neu a arferai dderbyn gofal”.

MODEL A CHYMORTH RHANBARTHOL:

Mae oddeutu 870 o ddysgwyr sy’n ‘derbyn gofal’ yn ysgolion GwE.

Yn ei hanfod, Plentyn mewn Gofal yw plentyn sy’n ‘derbyn gofal’ gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Mae nifer o ddisgyblion ‘a arferai dderbyn gofal’ yn ein hysgolion gan gynnwys plant sydd wedi’u mabwysiadu, y rhieni sydd ar Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, Gorchymyn Preswyliad a Gorchymyn Trefniadau Plant.

Prif flaenoriaeth GwE yw cefnogi Awdurdodau Lleol ac ysgolion i godi cyrhaeddiad,  cyflawniad ac ymroddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal ac a arferai dderbyn gofal.

Tra bo mwyafrif y PMG yn mynychu ysgolion lleol, mae nifer o ddysgwyr a addysgir y tu allan i’w hawdurdod cartref.  Yn bennaf, mae’r grant yn gymwys i’r dysgwyr hynny sydd â’u hawdurdod cartref cychwynnol yn rhanbarth GwE.  Fodd bynnag, os addysgir disgybl mewn lleoliad a gynhelir y tu allan i Gymru, gellid gwneud cais am y bwrsari unigol ar sail tystiolaeth ac asesiad gan Gydlynydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal (LACE) yr awdurdod cartref. 

Mae cynllun busnes GwE mewn perthynas â GDD PMG yn nodi’r amcanion a’r deilliannau allweddol a ganlyn:

  • Codi Cyrhaeddiad a Chyflawniad.
  • Lleihau Gwaharddiadau.
  • Targedu Ymyraethau Cynnar gyda ffocws ar bontio ar draws pob cyfnod allweddol.
  • Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth staff ysgolion o ymlyniad ac arfer sy’n wybodus am drawma, a hynny drwy ddull ysgol gyfan.
  • Hybu ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth, tegwch a llesiant.
  • Datblygu, a defnyddio, systemau diagnostig a thracio priodol i edrych ar gyflawniadau PMG.
  • Cefnogi Dull sy’n Canolbwyntio ar Unigolion.
  • Hyrwyddo, annog a datblygu llais y dysgwr ym mhob lleoliad.
  • R9 – Datblygu ymgysylltiad teuluol gyda gofalwyr maeth a theuluoedd.

GRANT GDD RHANBARTHOL:

Yn 2019/20, bydd y grant yn parhau i gael ei ddal yn ganolog gan y consortia addysg rhanbarthol gyda chefnogaeth y cydlynydd PMG rhanbarthol.  Gweithredir y rhan fwyaf o’r cyllid drwy’r model clwstwr i feithrin capasiti a darparu ymyraethau penodol, ac mae angen i’r naill a’r llall fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac effaith.  Gellir defnyddio cyfran fechan o’r grant hefyd i ddarparu bwrsari unigol at ddibenion anghenion addysgol penodol dysgwyr. Bydd angen cwblhau ffurflen gais ar gyfer dwy elfen y cyllid.

Gweler gopi o’r broses ar gyfer y GDD/ffurflen gais yn yr adran gwybodaeth ddefnyddiol.

Rolau Allweddol wrth Gefnogi PMG:

RÔL Y CYDLYNYDD PMG RHANBARTHOL

Cydlynydd Rhanbarthol PMG y Consortia sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y cynllun cymorth GDD PMG, ac mae’n cynrychioli’r rhanbarth ar y grŵp llywio GDD cenedlaethol. Yr ymgynghorydd fydd y prif gyswllt ar gyfer ysgolion/ALl o ran ymyraethau GDD  effeithiol/sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

RÔL CYDLYNWYR ADDYSG PLANT SY’N DERBYN GOFAL

Mae GwE yn cydweithio’n agos â Chydlynydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal pob ALl.  Dyma’r Cydlynwyr presennol;

 

SEFYDLIAD CYSWLLT

GwE
Kathryn Packer – Cydlynydd Arweiniol Rhanbarthol Plant Mewn Gofal

kathrynpacker@gwegogledd.cymru

ALl Gwynedd
Gwern Ap Rhisiart

GwernApRhisiart@gwynedd.llyw.cymru

ALl Ynys Môn
Heulwen Owen

HeulwenOwen@ynysmon.gov.uk

ALl Conwy
Hannah Morris

Hannah.morris1@conwy.gov.uk

ALl Sir Ddinbych
Kathryn Packer

kathryn.packer@denbighshire.gov.uk

ALl Sir y Fflint
Lisa Davies

Lisa.j.davies@flintshire.gov.uk

ALl Wrecsam
Chris Moore

Chris.Moore@wrexham.gov.uk

RÔL YR YMGYNGHORYDD CEFNOGI GWELLIANT CYSWLLT:

Gallwch hefyd gysylltu â’ch Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant (YCG) o GwE am wybodaeth bellach ac arweiniad ar y strategaethau i gefnogi PMG/plant a arferai dderbyn gofal gaiff effaith ar gyflawniad cyffredinol.  Gallant hefyd dynnu sylw at feysydd ar gyfer datblygiad/cymorth a sicrhau y rhoddir ymyraethau ar waith i fodloni anghenion.

RÔL Y PERSON DYNODEDIG YN YR YSGOL:

Gofynnir i ysgolion benodi Person Dynodedig ar gyfer PMG i gydlynu cymorth a chefnogi PMG i gyflawni eu potensial addysgol yn llawn. Prif ffocws y canllawiau statudol ‘Gwneud Gwahaniaeth’ yw rôl y person dynodedig mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Cyfeirir hefyd at:

  • Rôl Llywodraethwyr
  • Rôl Penaethiaid
  • Rôl athrawon
  • Dyletswydd cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i benodi person dynodedig ar gyfer plant mewn gofal yn yr ysgol
  • Cyfnodau pontio plant mewn gofal a phobl ifanc, o cyn ysgol i addysg orfodol, ac i addysg bellach ac uwch.

Gweler y canllawiau yn yr adran dogfennau defnyddiol.

ATEBOLRWYDD A THYSTIOLAETH O GRONFEYDD GDD PMG:

Er mwyn mesur effaith y strategaeth, mae GwE wedi datblygu dull gweithredu rhanbarthol sy’n sicrhau bod ysgolion/clystyrau unigol yn olrhain cynnydd PMG yn rheolaidd, yn arfarnu pob ymyrraeth ac yn mesur effaith.

Gweler gopi o’r Canllawiau Arfarnu GDD/ffurflenni yn yr adran gwybodaeth ddefnyddiol.

ARFERION LLWYDDIANNUS GDD A BETH SY’N GWEITHIO?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae GwE wedi datblygu rhaglen datblygiad proffesiynol i ysgolion/lleoliadau/staff ALl sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  Bydd angen i chi archebu cyrsiau cynnig proffesiynol GwE drwy G6.

Dyma rai o’r rhaglenni:

 

Gwybodaeth ddefnyddiol a rannwyd ag ysgolion yn ystod gweithdai GDD PMG ar arfersion llwyddiannus.

DOGFENNAU DEFNYDDIOL YN GYSYLLTIEDIG Â PMG:

DOGFENNAU GwE:

Ffurflen Gais 2019-2020 ar gyfer Grant Datblygu Disgyblion i Ddysgwyr sy’n Derbyn Gofal a dysgwyr a arferai Dderbyn Gofal [3-15]

Grant Datblygu Disgyblion i Blant mewn Gofal – Canllawiau Grant 

Grant Datblygu Disgyblion i Blant mewn Gofal a phlant a arferai Dderbyn Gofal – Canllawiau Grant ar Arfarnu a Mesur Effaith

DOGFENNAU LLYWODRAETH CYMRU:

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn amlinellu sut y gall ysgolion gefnogi plant sydd wedi’u mabwysiadu.

Sut y dylai darparwyr addysg ddefnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi plant mewn gofal.

Canllawiau i ddarparwyr addysg ar rôl y person dynodedig ar gyfer plant mewn gofal.

Pecyn Cymorth Dysgu ac Addysgu gan yr Education Endowment Foundation – Arweiniad i ysgolion ar ddulliau o wella’r dysgu ar gyfer disgyblion difreintiedig. Mae’n cynnwys manylion ynghylch manteision a chost pob dull.

Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal – Polisi a strategaeth:  Ein rhaglen ar gyfer cefnogi gweithgareddau gaiff effaith gadarnhaol ar fywyd ac addysg plant mewn gofal.