VESPA Ôl-16

Gweler isod wybodaeth am gyfle cyffrous i chi, arweinwyr ôl-16.

Gan weithio gyda chonsortia rhanbarthol eraill, rydym wedi trefnu dysgu proffesiynol yn seiliedig ar waith Martin Griffin a Steve Oakes, awduron A Level Mindset. Bydd y rhaglen o ddysgu proffesiynol yn cael ei chyflwyno gan Martin a Steven, a bydd yn cynnwys nifer o sesiynau gwahanol yn seiliedig ar ba mor gyfarwydd yr ydych chi â’r gwaith:

  • Bydd ysgolion sy’n newydd i’r rhaglen VESPA yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dwy sesiwn ragarweiniol, sesiwn ddilynol ar hyfforddi â VESPA, a sesiwn olaf ar roi VESPA ar waith ar raddfa fawr.
  • Bydd ysgolion sydd eisoes yn gyfarwydd VESPA, ac sydd, o bosibl, eisoes yn defnyddio nifer o weithgareddau VESPA, yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dwy sesiwn: bydd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar hyfforddi gan ddefnyddio VESPA, a’r ail sesiwn ar roi VESPA ar waith ar raddfa fawr.

Mae Steve Oakes wedi darparu crynodeb o’r rhaglen yn y fideo a ganlyn: https://www.loom.com/share/c5ee031a52484768b2a91a05bf3f1ea6

Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer Penaethiaid chweched dosbarth/arweinwyr ôl-16, yn ogystal ag arweinwyr cynnydd Cyfnod Allweddol 4.   Mae manylion pellach i’w gweld yn y ddogfen atodedig, ond mae croeso i chi gysylltu os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

Defnyddiwch y ddolen hon i gyrchu’r ffurflen archebu.