Google – Camau Cyntaf gyda G-Suite [Cymraeg]

Addas ar gyfer: Athrawon Cynradd, Uwchradd ac Arbennig

AMCAN

Mae’r cwrs wedi ei anelu at athrawon sydd heb ddefnyddio ‘Google apps for Education’ eisoes ac sy’n awyddus i ddysgu sut all hwn gefnogi a hwyluso’r dysgu digidol yn eu dosbarthiadau. Mae hefyd wedi ei anelu at athrawon sydd yn awyddus i adeiladu hyder yn defnyddio a sefydlu’r defnydd cyson o G-Suite yn ei dosbarthiadau. Bydd cyfle yn ystod y dydd i gwblhau nifer o ymarferion gyda’r bwriad o ymgyfarwyddo a datblygu hyder athrawon er mwyn iddynt allu addasu a defnyddio’r tasgau gyda’i dysgwyr.