Google for Education – Symud Ymlaen gyda G-Suite [Saesneg]

Addas ar gyfer: Athrawon Cynradd, Uwchradd ac Arbennig

AMCAN

Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei anelu at athrawon sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o raglenni craidd G-Suite –Docs / Slides / Sheets / Drive / Classroom. Bydd cyfle yn ystod yr hyfforddiant i ddysgu mwy am nodweddion ymestynnol y rhaglenni craidd a byddwn yn edrych ar wahanol ddulliau o roi adborth yn ddigidol i ddysgwyr er mwyn codi safon eu gwaith. Byddwn yn edrych ar raglenni eraill o fewn G-Suite. Bydd cyfle i ddysgu sut i greu profion sy’n marcio’i hunain drwy ‘Forms’ a bydd cyfle i ddysgu sut all ‘Sites’ gael ei ddefnyddio i hwyluso prosiectau mwy ymestynnol ar G-Suite.