Amdanom ni

Cymedroli Cyfnod Allweddol 2 a 3

Er nad oes unrhyw newid mawr i’r drefn eleni, mae GwE yn gofyn i glystyrau enwebu ‘arweinwyr asesu’ ar gyfer CA2 a CA3 erbyn Dydd Llun, 27 Tachwedd 2017. Eu rôl fydd sicrhau fod y wybodaeth am y broses yn cael ei rannu gyda’r athrawon ac adrannau perthnasol yn y clwstwr. Gweler yr amserlen am fwy o wybodaeth.

GWEITHREDOEDD A CHYFRIFOLDEBAU AMSERLEN CYFRANOGWYR
Clystyrau i adnabod ‘Arweinydd Asesu’ ar gyfer CA2 a CA3. Eu rôl fydd derbyn a rhannu gwybodaeth am y broses i weddill y clwstwr. Anfon yr enwau, e-bost a rhif ffôn at: HelenWilliams@gwegogledd.cymru erbyn Dydd Llun, 27 Tachwedd 2017 Penaethiaid
Cyfle i ‘Arweinwyr Asesu’ fynychu sesiwn gwybodaeth leol gyda GwE – bwriadwn gynnal sesiynau hwyrnos ar draws y rhanbarth. Wythnos yn dechrau Dydd Llun, 4 Rhagfyr 2017 ‘Arweinwyr Asesu’
Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE
‘Arweinwyr Asesu’ i sicrhau fod pob ysgol o fewn y clwstwr yn ymwybodol o ofynion safoni a chymedroli a’r adnoddau sydd ar gael.

Anfon dyddiadau cyfarfodydd cymedroli clwstwr terfynol i GwE.

Gyrru’r dyddiadau i: HelenWilliams@gwegogledd.cymru erbyn Dydd Gwener, 26 Ionawr 2017 Penaethiaid
Arweinwyr Asesu
Clystyrau i safoni ac ysgolion i gymedroli gan baratoi ar gyfer cymedroli clwstwr. Tymor yr Hydref – Gwanwyn Athrawon yn yr ysgolion
Penaethiaid / Arweinwyr Asesu i drefnu a hyrwyddo cyfarfodydd clwstwr i gymedroli cyrhaeddiad disgyblion.

Dylid cymedroli gwaith un disgybl ar Lefel 4 a 5 yn CA2 a Lefel 5 a 6 yn CA3 yn y pynciau craidd yn unol â gofynion statudol.

Cyfarfodydd cymedroli clwstwr terfynol i ddigwydd yn nhymor y Gwanwyn a/neu’r Haf. Penaethiaid
Arweinwyr Asesu
Ysgolion yn y clwstwr
Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant
Bydd Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn mynychu’r cyfarfodydd hyn.

 

Lawrlwythwch copi o’r amserlen yma.